Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwr mewn Cyfraith Eglwysig yn cwrdd â Phennaeth yr Eglwys Uniongred Roegaidd

10 Ebrill 2019

Yn ddiweddar bu Athro Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth mewn cyfarfod preifat gyda Phennaeth yr Eglwys Uniongred Roegaidd fyd-eang.

Cyfarfu'r Athro Norman Doe â'i Holl Sancteiddrwydd Bartholomew, Patriarch Eciwmenaidd Constantinople yn Istanbul ar 16 Mawrth 2019 i drafod gwaith panel eciwmenaidd o arweinwyr crefyddol, cyfreithwyr a diwinyddion y bu'n aelod ohono ers 2013.  Mae gan y panel aelodau o ddeg traddodiad Cristnogol ledled y byd - Catholig, Uniongred, Anglicanaidd, Lwtheraidd, Methodistaidd, Diwygiedig, Presbyteraidd, Bedyddwyr, Hen Gatholigion a Phentecostal.

Cafodd Datganiad o Egwyddorion Cyfraith Gristnogol (Rhufain 2016) y Panel ei awgrymu a'i ddrafftio i ddechrau gan yr Athro Doe ar sail ei lyfr Christian Law: Contemporary Principles (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2013).

Mae'r Datganiad (2016) yn cael ei fwydo i mewn i waith Cyngor Eglwysi’r Byd a'i Gomisiwn Ffydd a Threfn, a sefydlwyd partneriaeth gyda'r panel yn Geneva yn 2017. Mae digwyddiadau cenedlaethol eisoes wedi defnyddio'r Datganiad i feithrin gwell dealltwriaeth rhwng Cristnogion sydd wedi'u rhannu'n sefydliadol yn Uppsala, Amsterdam, Melbourne, Sydney a Chaerdydd a bwriedir cynnal digwyddiadau o'r fath yn Oslo, Llundain a Rhufain yn ystod y misoedd nesaf.

Croesawodd Ei Holl Sancteiddrwydd Bartholomew y Datganiad fel “modd o sicrhau undod a chydweithio” rhwng Cristnogion o wahanol draddodiadau.

Rhannu’r stori hon