Ewch i’r prif gynnwys

Gallai datganoli budd-daliadau fod o fudd i gyllideb Cymru, yn ôl adroddiad

11 Ebrill 2019

Senedd building

Ymchwilwyr yn ystyried goblygiadau ariannol trosglwyddo pwerau lles i Gymru

Gallai rhoi'r un pwerau i Gymru â'r Alban dros fudd-daliadau roi hwb o dros £200m y flwyddyn i gyllideb Cymru, yn ôl ymchwil newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daw’r canfyddiad i’r amlwg mewn adroddiad sy'n edrych ar sut y gallai cyllideb Cymru gael ei heffeithio pe byddai Llywodraeth Cymru yn rheoli lles i'r un graddau â Llywodraeth yr Alban.

Yn 2016, cafodd yr Alban reolaeth gan Lywodraeth y DU dros 11 o fudd-daliadau lles yn ogystal â'r gallu i greu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd mewn meysydd polisi a ddatganolwyd.

Byddai pecyn pwerau cyfatebol yn rhoi cyfrifoldeb i Gymru dros Lwfans Byw Anabledd, Taliad Annibyniaeth Personol a Lwfans Gweini, yn ogystal â budd-daliadau llai gan gynnwys Taliad Tywydd Oer, Taliad Disgresiwn at Gostau Tai a Thaliad Tanwydd Gaeaf.

Mae gwariant fesul unigolyn ar y budd-daliadau hyn yn uwch yng Nghymru, ond maent wedi gostwng o fod yn 155% o'r lefel Saesnig yn 2010-11 i 150% yn 2017-18. Byddai datganoli yn cynnwys trosglwyddiad cychwynnol o arian gan lywodraeth y DU, gydag opsiynau gwahanol o ran y modd y gallai trefniadau newid yn y blynyddoedd i ddod.

Canfu'r ymchwilwyr y gallai defnyddio'r un fformiwla ariannu â'r Alban hyd yn oed arwain at warged cyllidebol i Lywodraeth Cymru. Wrth ystyried y rhagolygon o ran beth fydd yr angen yng Nghymru yn y dyfodol, ni fyddai unrhyw opsiwn ariannu a ddadansoddwyd yn golygu bod datganoli'n anghynaladwy'n ariannol.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud yn flaenorol ei fod eisiau i'r achos dros ddatganoli pwerau gweinyddu budd-daliadau lles gael ei ystyried. Cyflwynwyd yr ymchwil fel tystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor Materion Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru i fod yn rhan o'u hymchwiliad, "Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau ar gyfer darparu'n well".

Yn ôl Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddiad Ariannol Cymru: "Gan fod tlodi ac anabledd yn fwy cyffredin yng Nghymru, caiff ei gymryd yn ganiataol yn aml y byddai unrhyw fath o ddatganoli lles yn andwyol i Gymru a chyllideb Cymru.

"Fodd bynnag, rydym wedi ymchwilio i nifer o sefyllfaoedd posibl a fyddai’n deillio o ddod i gytundeb gyda San Steffan ac nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai datganoli budd-daliadau i Gymru'n anghynaladwy yn ariannol. Mewn gwirionedd, pe byddai'r un budd-daliadau â'r rheiny yn yr Alban yn cael eu llywodraethu yng Nghymru, ynghyd â fformiwla ariannu debyg, gallai arwain mewn gwirionedd at ganlyniad ariannol cadarnhaol."

Ychwanegodd: "Nid yw ein hymchwil yn canolbwyntio ar y dadleuon ehangach o blaid ac yn erbyn datganoli lles. Fodd bynnag, mae'n awgrymu na ddylid diystyru hynny ar sail ariannol."

Daeth i’r amlwg i’r ymchwilwyr pe byddai'r dull y cytunwyd arno ar gyfer cyfrifo setliad yr Alban – sef dull Indexed Per Capita – yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru, byddai hynny'n arwain at y canlyniad ariannol gorau, gyda gwarged arfaethedig o £200m y flwyddyn erbyn diwedd 2023-24.

O dan fformiwla Barnett fyddai Cymru ar ei cholled fwyaf, oherwydd rhagwelir y byddai Trysorlys Cymru ar ei ennill o £14m y flwyddyn ar gyfartaledd hyd at ddiwedd 2023-24.

Yn ôl Cian Siôn, Cynorthwy-ydd Ymchwil Dadansoddiad Ariannol Cymru: "Byddai'r fformiwla a ddefnyddir ar gyfer yr Alban, neu amrywiad ar fformiwla Trysorlys y DU a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer datganoli trethi i Gymru, yn cynrychioli'r dewisiadau lleiaf peryglus ac o bosibl, opsiynau er budd Cymru. Hyd yn oed pe byddai fformiwla syml Barnett yn cael ei defnyddio, gwelwn na fyddai Cymru'n waeth ei byd o reidrwydd o ganlyniad i ddatganoli lles.

"Mae'r gwahaniaethau enfawr rhwng y naill sefyllfa a'r llall yn dangos y byddai llawer yn dibynnu ar drafodaethau gyda San Steffan i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael y setliad gorau. Gallai'r cynsail a osodwyd gan yr Alban fod yn rhan allweddol o'r trafodaethau hynny."

Rhannu’r stori hon