Gwobr gan y Gymdeithas Daearyddiaeth am gydweithio i greu fideos
10 Ebrill 2019
Mae cyfres o fideos cydweithredol rhwng Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd a chwmni ffilm addysgiadol Time for Geography wedi ennill Gwobr Cyhoeddwyr Arian 2019 y Gymdeithas Daearyddiaeth.
Y Gymdeithas Daearyddiaeth yw prif gymdeithas y pwnc ar gyfer athrawon daearyddiaeth ar draws y byd, a’i nod yw hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o ddaearyddiaeth drwy addysg. Mae ei Gwobrau Cyhoeddwyr yn cydnabod deunyddiau sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth ar gyfer ysgolion a cholegau sydd ym marn y Gymdeithas wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg ddaearyddol a datblygiad proffesiynol.
Cafodd y gyfres arobryn o ffilmiau ynghylch pam mae clogwyni môr yn gwegian yn ystod stormydd a sut mae dyffrynnoedd ar ffurf U bedol a thirffurfiau’n ffurfio, gefnogaeth gan ddarlithydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Claire Earlie, arbenigwr ar brosesau arfordirol.
Sefydlwyd Time for Geography gan Dr Rob Parker, cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei nod yw creu fideos addysgiadol ysbrydoledig, sy’n agored i bawb, ynghylch daearyddiaeth er mwyn cefnogi athrawon a dysgwyr, o ddisgyblion ysgol uwchradd i fyfyrwyr prifysgol.
Dywedodd Dr Parker: “Mae’r Wobr Arian yn dangos pa mor llwyddiannus fu'r bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Time for Geography o ran cefnogi addysg uwchradd, ynghyd â gwaith cydweithredol ffantastig Claire wrth helpu i wneud y fideos hyn yn bosibl.”
Cyflwynwyd y wobr yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion ar 9 Ebrill 2019.
Os hoffech weld unrhyw rai o fideos arobryn, ewch i wefan Time for Geography.