Pythefnos Amrywiaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth
10 Ebrill 2019
Bu'r Ysgol Cerddoriaeth yn dathlu Pythefnos Amrywiaeth a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda chyfres o ddigwyddiadau.
Y cyntaf oedd cyngerdd arddangos a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn dathlu cyfansoddwyr benywaidd, a pherfformwyr a chyfansoddwyr benywaidd o blith y myfyrwyr. Cynhaliwyd y cyngerdd yn neuadd gyngerdd yr Ysgol Cerddoriaeth, ac roedd yn amlygu gweithiau cerdd a ysgrifennwyd, cyfarwyddwyd, trefnwyd ac a berfformiwyd gan fenywod, ynghyd â darnau am fenywod.
Ymhlith y cyfansoddwyr roedd Clara Schumann, Lili Boulanger a Morfydd Owen mewn amrywiaeth o genres gan gynnwys cerddoriaeth siambr, cân gelf, opera, cân werin, jazz a theatr gerddorol, gan arddangos talentau gwych ac eang ein myfyrwyr.
Yr ail ddigwyddiad oedd trafodaeth rhwng Dr Cameron Gardner, yr athro piano Alison Bowring a'i disgybl dall, Rachel Starritt. Siaradodd Rachel, sy'n fyfyriwr ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn agored am yr heriau a wynebodd pan ddechreuodd astudio'r piano gydag Alison yn 11 oed.
Drwy arddangosiad, dangosodd y ddwy sut y goresgynnwyd rhwystrau corfforol a daearyddol, nid lleiaf gyda thechneg rythmig a chydlynu mae Alison wedi'i harloesi ers bod yn dysgu Rachel: dadgydamseru. Mae'r profiad hwn wedi galluogi Alison i ailddyfeisio ei thechneg addysgu ac wedi bod o fudd i'w myfyrwyr i gyd.
Yn ogystal â pharhau i ddatblygu repertoire a phrofiad o berfformio, siaradodd Rachel hefyd am ei huchelgais i ehangu ei phrofiad mewn jazz a byrfyfyrio (cryfder penodol) a dechrau astudio cyfansoddi.
Gorffennodd cyfraniad Cerddoriaeth i'r Pythefnos Amrywiaeth gyda dwy sgwrs ar fudd therapiwtig hamdden a cherddoriaeth yn hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol cadarnhaol, gyda chyfraniad gan Hannah Gibbs, sydd wedi graddio o'r Ysgol Cerddoriaeth.
Mae Hannah yn gweithio gyda sefydliad tai ac ar hyn o bryd mae ganddi ddau gleient sy'n astudio therapi cerdd. Ar ôl dod ar draws therapi cerdd am y tro cyntaf yn ystod ei chyfnod yn astudio yn Boston, trafododd Hannah y ffyrdd mae wedi datblygu'r ddisgyblaeth drwy ei hastudiaethau a'i hymagwedd at waith cymdeithasol.