Adnewyddu adeilad ymchwil yn cael ‘cydnabyddiaeth uchel’
9 Ebrill 2019
Mae cyfleusterau a grëwyd ar gyfer Sefydliad Ymchwil Dementia (DRI) Prifysgol Caerdydd wedi cael canmoliaeth uchel ei pharch mewn cystadleuaeth ryngwladol fawr ar gyfer adeiladau gwyddonol.
Mae Gwobrau S-Lab, a gychwynnodd yn 2012, yn cydnabod rhagoriaeth o ran dyluniadau, gweithrediadau a rheolaeth labordai.
Cafodd y DRI ei rhoi ar y rhestr fer yng nghategori adeiladau a gofodau wedi’u hadnewyddu, ochr yn ochr â chyfleusterau yn UDA a Llundain. Canolfan Ymchwil Gwyddorau Moleciwlaidd yng Ngholeg Imperial Llundain oedd yr enillydd.
Mae rhan o Adeilad Hadyn Ellis ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael ei hadnewyddu i gynnig gofod swyddfa newydd a gofod labordy hyblyg i ddod ag ymchwilwyr dementia at ei gilydd.
IBI gynhyrchiodd y dyluniad ar y cyd â’r peirianwyr gwasanaethau, AECOM, a’r ymgynghoriaeth rheoli prosiectau/costau, Capita. Cafodd ei adeiladu i safon uchel o fewn amserlen dynn iawn gan gontractwr Knox and Wells, a Lorne Stewart osododd y gwasanaethau.
Lansiwyd y gwaith adnewyddu gwerth £3m ym mis Hydref 2018.
Nod Canolfan DRI yw dod o hyd i driniaethau effeithiol ar gyfer dementia. Mae’r ganolfan hon yn un o chwech sy’n ffurfio DRI y DU.
Enillodd Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd y Categori Adeilad Ymchwil Gwyddorau Bywyd yn Seremoni Wobrwyo S-Lab 2017.