Caerdydd yn cael ei henwi'n 'Ganolfan Rhagoriaeth' gan Precision Medicine Catapult
26 Hydref 2015
Mae Caerdydd wedi cael ei henwi'n 'Ganolfan Rhagoriaeth' mewn rhwydwaith o ganolfannau i ddatblygu meddygaeth fanwl ledled y DU
Bydd arbenigedd Prifysgol Caerdydd o ran ymchwilio i dechnolegau arloesol ar gyfer sector gofal iechyd y DU, a'u datblygu, yn cefnogi Canolfan Caerdydd Precision Medicine Catapult. Mae'n un o chwe chanolfan a enwir ym mhrosiect £50m Precision Medicine Catapult, a ariennir gan Innovate UK, asiantaeth arloesedd Llywodraeth y DU.
O dan arweiniad consortiwm, gyda Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'r Brifysgol wrth y llyw, bydd y Ganolfan yn gweithio ar raglenni lleol, gan feithrin timau arbenigol ar draws y ddinas. Bydd y ganolfan yn cydweithio â rhanddeiliaid lleol, cenedlaethol a byd-eang gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sefydliadau academaidd, systemau iechyd a busnesau bach a chanolig, i nodi'r rhwystrau rhag datblygu diwydiant meddygaeth fanwl blaenllaw yn y DU, a goresgyn y rhwystrau hyn.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at arbenigedd y ddinas mewn meddygaeth fanwl, yn ogystal ag enw da'r Brifysgol ar gyfer ymchwil ragorol yn y DU. Bydd Canolfan Caerdydd yn cefnogi rhaglenni clinigol a data pwysig yn y DU, fel profi modelau treialau clinigol newydd a datblygu llwybrau mabwysiadu'r GIG. Bydd gosod Caerdydd yn Rhwydwaith Catapult y DU yn dod â manteision ehangach i economi Cymru hefyd."
Bydd y ganolfan, a gaiff ei chefnogi gan Brifysgol Abertawe hefyd, yn cydweithio â phartneriaid lleol, cenedlaethol a byd-eang i nodi'r rhwystrau rhag datblygu diwydiant meddygaeth fanwl blaenllaw yn y DU, a goresgyn y rhwystrau hyn.
Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Swyddog Gwyddonol Cymru a Deon Ymchwil Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Caerdydd: "Mae meddygaeth fanwl yn defnyddio profion diagnostig a data i ddeall clefyd y claf yn fwy manwl, felly mae'n helpu i ddatblygu triniaethau sydd â chanlyniadau mwy rhagweladwy, mwy diogel a chost-effeithiol. Bydd Canolfan Caerdydd yn gweithio gyda rheoleiddwyr, diwydiant a mentrau Llywodraeth Cymru a'r DU i ddatblygu'r sector."
Yn ôl Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Mae sector gwyddorau bywyd Cymru'n ffynnu, ac mae gan Gymru enw da byd-eang am ragoriaeth ymchwil. Mae cyhoeddi Caerdydd yn un o'r canolfannau rhagoriaeth i ddatblygu meddygaeth fanwl heddiw yn hwb pellach i'r sector."
Dywedodd Gweinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson, "Mae'r DU yn arwain y byd o ran y gwyddorau bywyd, ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein gallu yn y diwydiant hollbwysig hwn. Bydd y canolfannau rhagoriaeth hyn yn cefnogi ymchwilwyr ledled y wlad i ddatblygu technolegau meddygaeth fanwl fydd yn achub bywydau ac yn helpu i dyfu'r sector."