Cwrs byr a bywiog a gynhelir ar gyfer Diploma Ymarfer Proffesiynol
5 Ebrill 2019
Yn ddiweddar, fe gynhaliodd yr Athro Sarah Lipton gwrs byr, bywiog a chynhyrchiol ar gyfer y Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol.
Roedd y cwrs yn cynnwys gweithdai a seminarau ynghylch caffael, gweinyddu contractau, marchnata a sgiliau rheoli prosiectau, gwerthuso gyrfaoedd a chyfweliadau proffesiynol.
Cafodd ei gynnal gan Arweinydd y Rhaglen, Sarah Lupton, gyda chymorth ymgynghorwyr arbenigol allanol yr Ysgol, Manon Stellikas (Lupton Stellikas) a Rob Firth (ActionCOACH Global).
Cyflwynodd arbenigwyr gwadd eraill ystod o seminarau ynghylch amrywiaeth o bynciau gan gynnwys rheoli dyluniadau gan Dale Sinclair (Aecom), rheoli ariannol gyda Michael Holmes (Michael Holmes Consultancy) a ffioedd proffesiynol gyda Vince Nacey (Mirza & Nacey Research).
Meddai’r Athro Lupton, Ysgol Pensaernïaeth Cymru:
“Roedd yn wythnos lwyddiannus dros ben. Cafwyd cyngor diddorol a defnyddiol gan ystod o arbenigwyr ac roedd yn canolbwyntio ar bynciau arloesol y gellir eu defnyddio ar unwaith. Erbyn hyn, rwyf yn croesawu ymholiadau ynghylch y ddau gwrs ôl-raddedig y byddaf yn eu cynnal o fis Medi 2019; Meistr mewn Gweinyddu Dyluniadau, a’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3)”.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y rhaglenni uchod, cysylltwch â’r Athro Sarah Lupton at lupton@caerdydd.ac.uk.