Targed newydd i ddatblygu cyffuriau mwy effeithiol ar gyfer trin firysau
5 Ebrill 2019
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod bod moleciwl, sy’n gyfrifol am arwain celloedd-T sy’n lladd feirysau at leoliad yr haint, hefyd yn gyfrifol am gynyddu niferoedd celloedd-T yn gyflym i ymladd yn erbyn heintiau. Mae hyn yn ei wneud yn darged pwysig newydd i ddatblygu cyffuriau mwy effeithiol i drin feirysau a chanserau.
Gwnaed y darganfyddiad newydd gan y tîm, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o Sefydliad Crick (Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol MRC gynt) tra ei fod yn astudio sut y gall celloedd-T sy’n lladd ganfod feirysau a symud at y rhan o’r corff lle mae’r feirws yn atgynhyrchu, megis yr ysgyfaint mewn pobl sydd â ffliw.
Dywedodd yr Athro Ann Ager o Brifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil: “Hyd heddiw nid oeddem yn gwybod ryw lawer am y mecanweithiau sy’n galluogi cynnydd cyflym yn nifer y celloedd-T i ymladd yn erbyn haint. Tra’n edrych ar rôl y moleciwl L-selectin o ran arwain celloedd-T at haint, gwnaethom ddatgloi y gyfrinach hon a chanfod bod y moleciwl hefyd yn rheoli'r broses hanfodol o luosogi nifer y celloedd-T sy’n lladd.”
Datgelodd yr ymchwil fod ensym o’r enw ADAM17 yn gyfrifol am gael gwared ar foleciwl L-selectin o arwyneb celloedd-T sydd rywsut yn gwneud i'w niferoedd gynyddu.
Ychwanegodd yr Athro Ager: “Gallai hyn fod yn ddarn pwerus o wybodaeth, gan fod bellach gennym fecanwaith i’w astudio, a'i efelychu o bosibl, wrth ddatblygu cyffuriau newydd a allai hybu’r broses o gynhyrchu celloedd-T a gwella triniaethau ar gyfer nifer o heintiau feirysol. Byddai hyn yn fanteisiol i bobl sydd ag imiwnedd gwan a risg uwch o gymhlethdodau o ganlyniad i heintiau.
“Nod astudiaethau y dyfodol fydd dod o hyd yn union sut y mae dileu moleciwl yn ensymatig o arwyneb celloedd-T yn gysylltiedig â’r broses o gynyddu eu niferoedd.”