Ymchwilwyr yn datguddio achos newydd o anewrysm aortig abdomenol
4 Ebrill 2019
Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod teulu o lipidau (brasterau) yn cyfrannu at ddatblygu clefyd aortig difrifol drwy sbarduno tolchenni i ffurfio yn waliau’r pibellau gwaed.
Gallai’r canfyddiadau arwain at ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer y cyflwr hwn sy’n gallu lladd.
Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, ar y cyd â chydweithwyr o Rydychen ac Erlangen, yr Almaen, arweiniodd y tîm. Darganfu’r tîm fod y lipidau, o’r enw eoxPL, yn hyrwyddo datblygiad anewrysmau aortig abdomenol (AAA), sy’n glefyd yr aorta lle mae llid yn achosi niwed allai arwain at rwyg.
Pan mae anewrysm aortig abdomenol yn rhwygo, gall gwaedu mewnol afreolus arwain at farwolaeth ymhen munudau. Dim ond tua 2 o bob deg o bobl sy’n goroesi hyn. Ni chanfyddir llawer o anewrysmau nes eu bod yn rhwygo ac o ran y rhai sydd wedi’u canfod, nid oes llawer o driniaethau ar gael i atal eu datblygiad. Dynion 65 oed a hŷn sydd â’r risg fwyaf o ddatblygu anewrysmau aortig abdomenol.
Dywedodd yr Athro Valerie O'Donnell, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd, a lywiodd yr ymchwil: “Ar ôl darganfod lipid newydd sy’n hyrwyddo tolchennu gwaed, fe wnaethom ystyried a oedd y lipid hwn yn chwarae rhan mewn anewrysmau aortig abdomenol, oherwydd rydym ni’n gwybod bod y cyflwr yn gysylltiedig â tholchennu gwaed.
“Canfu ein hymchwil fod y lipid hwn a geir yng nghelloedd y gwaed yn hyrwyddo datblygiad anewrysmau aortig abdomenol yn waliau pibelli’r gwaed, achos mae’n rheoli tolchennu gwaed yn uniongyrchol.
“Yn annisgwyl, pan mae’r un lipidau’n cael eu cyflwyno i system y gwaed, gwelwyd bod ganddynt briodweddau ataliol. Yn lle cael eu gwneud gan gelloedd y gwaed yn waliau pibelli’r gwaed, mae’r lipidau’n amsugno ffactorau tolchennu o’r gwaed ac yn atal y clefyd.”
Meddai’r Athro Jeremy Pearson, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt yn Sefydliad Prydeinig y Galon a ariannodd yr ymchwil:
“Nid yw AAA yn cael ei ganfod fel arfer nes bydd rhwyg yn digwydd sy’n bygwth bywyd y claf, ac nid oes triniaeth arferol er mwyn ei drin. Fodd bynnag, cynigir gwasanaeth sgrinio i ddynion 65+ oed. Sgan uwchsain 10-15 munud o hyd yw hwn.
“Mae’r ymchwil hon yn rhoi dealltwriaeth newydd i ni o’r cysylltiadau biolegol rhwng tolchennu gwaed a datblygu AAA. Mae’r canfyddiadau hefyd yn awgrymu y gallai atal tolchennu gwaed rhag digwydd, boed yn uniongyrchol neu drwy atal y lipidau hyn rhag ffurfio, fod yn ffordd effeithiol o leihau’r perygl o rwygo ymysg pobl pan mae’r gwasanaeth sgrinio yn datgelu AAA.”
Cyhoeddwyd yr astudiaeth ‘Pilenni ffosffolipid yn hyrwyddo datblygiad anewrysmau aortig abdomenol drwy sbarduno gweithgarwch ffactorau tolchennu’ yn Proceedings of the National Academy of Sciences (cynnwys dolen). Hefyd, cafodd erthygl adolygu ynghylch y lipidau newydd ei chyhoeddi’r mis hwn yn Science Signalling (dolen).