Cylcholdeb mewn diwydiant
20 Mawrth 2019
Bu ymarferwyr o ddiwydiant a'r byd academaidd yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd ar sefydlu gwerth gwastraff yn nhrydedd gynhadledd Arloesi mewn Mentergarwch Darbodus a Gweithrediadau Gwyrdd (iLEGO) ar 15 Ionawr 2019.
Yn y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd ac a drefnwyd gan yr Athro Maneesh Kumar, Dr Vasco Rodrigues a Nadine Leder, gosodwyd ailgylchu, ailddefnyddio, compostio a throsi wrth galon cyfres o gyflwyniadau gan siaradwyr o'r llywodraeth, y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Mae gweithredu modelau gosod gwerth ar wastraff ar gynnydd mewn ymateb i'r heriau mawr a osodir gan newid yn yr hinsawdd, llygredd a thlodi adnoddau.
Mae arferion fel ailgylchu, ailddefnyddio, compostio a throsi'n cynnig ffyrdd y gallai sefydliadau 'gau'r ddolen' a sicrhau bod gwastraff yn cael ei leihau drwy greu cylcholdeb yn y cadwyni cyflenwi.
Economi gylchol yng Nghymru
Amlinellodd siaradwr cyntaf y digwyddiad, Dr Andy Rees OBE, Pennaeth Strategaeth Gwastraff Llywodraeth Cymru, sut y caiff polisi ei ddatblygu a'i gyflwyno i sicrhau economi gylchol un blaned, fwy effeithiol o ran adnoddau yng Nghymru.
Dangosodd Dr Rees fod gan y genedl gyfradd ailgylchu nodedig, ond y nod yw gwneud mwy drwy ymgynghori ar fentrau polisi i gyflenwi buddion cymdeithasol ac economaidd yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Technoleg yw'r allwedd
Lauren Ing, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynaladwyedd gydag Accenture Strategy oedd y nesaf i siarad ac ni wastraffodd unrhyw amser yn hyrwyddo'r angen i greu ymagwedd gyfannol yn seiliedig ar systemau at yr Economi Gylchol.
Cyflwynodd Ms Ing y farn fod technoleg yn allweddol i alluogi'r trawsnewid hwn.
Nesaf, cyflwynodd Suzanne Westlake, Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol a Materion Corfforaethol Ocado, safbwynt adwerthwr ar Nodau Datblygu Cynaliadwy'r CU.
Datrysiadau Arloesol
Dangosodd Ms Westlake lwyddiannau Ocado gan ddangos sut mae'r adwerthwr yn cynhyrchu 0.025% yn unig o wastraff bwyd o'i gymharu â chyfartaledd y diwydiant o 3%. Mae'n cyflawni hyn drwy amrywiol fesurau, gan gynnwys rhoi gwastraff i fanciau bwyd.
Effaith amgylcheddol fwyaf Ocado yw eu fflyd a defnydd o danwydd. Esboniodd Ms Westlake fod hwn yn faes lle maent yn ceisio dod o hyd i ddatrysiadau arloesol yn barhaus er mwyn lleihau eu hôl troed.
Hyd yma maent wedi cyflwyno mentrau i optimeiddio'r llwybrau danfon, ysgafnhau eu cerbydau danfon a cheisio tanwydd amgen i'r cerbydau.
Ffocws
Ar ôl cinio cafwyd cyfres o grwpiau ffocws dan arweiniad trefnwyr y digwyddiad, yr Athro Maneesh Kumar, deiliad Cadair Gweithrediadau Gwasanaeth, Dr Vasco Rodrigues, Uwch Ddarlithydd Logisteg a Rheoli Gweithrediadau a Nadine Leder, myfyriwr ymchwil, oll o Ysgol Busnes Caerdydd.
Trafododd y cynrychiolwyr yr heriau mewnol ac allanol mae sefydliadau'n eu hwynebu wrth roi modelau busnes gosod gwerth gwastraff ar waith a sut y gall technoleg helpu i'w goresgyn.
Disgwylir y bydd canfyddiadau’r grwpiau ffocws yn cael eu cyhoeddi fel rhan o draethawd ymchwil PhD Ms Leder, gyda chyfathrebu, casglu a defnyddio data, datgymalu ac AI ymhlith yr ystyriaethau a godwyd.
Darn chwyldroadol o ddeddfwriaeth
Yn dilyn y grwpiau ffocws cafwyd prif ddarlith gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
Amlinellodd Ms Howe fanylion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ddarn chwyldroadol o ddeddfwriaeth, ac sy'n rhoi'r uchelgais, caniatâd ac ymrwymiad cyfreithiol i Gymru wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru.
Esboniodd y comisiynydd sut mae'r Ddeddf yn erfyn ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i feddwl am effaith tymor hir eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae gwaith Ms Howe wedi denu diddordeb o wledydd ar draws y byd oherwydd yr uchelgais a geir ynddo i sicrhau newid cadarnhaol parhaus i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Gwnaed y cyflwyniadau olaf ond un gan Nerys Williams, Rheolwr Datblygu Cyfleusterau gyda Chyngor Sir Abertawe a Simon Jones, Cyfarwyddwr Masnachol gyda Ministry of Furniture.
Taith gydweithredol
Rhannodd Ms Williams a Mr Jones ganlyniadau prosiect economi gylchol Ministry of Furniture gyda Chyngor Sir Abertawe lle'r oedd y cyfanwerthwr yn uwchgylchu ac yn ailgynhyrchu hen ddodrefn ar gyfer swyddfeydd y Cyngor oedd wedi'u hailgynllunio.
Drwy osgoi caffael dodrefn newydd, roedd y Cyngor yn gallu haneru'r gofod swyddfa (chwe mil o fetrau) ym Mhencadlys y Sir a chyflwyno 'gweithio heini' i wella llesiant ac amodau gwaith y staff.
Daeth Tina Schmieder-Gaite, Rheolwr Prosiect a Susan Jay, Arbenigwr Sector yr Economi Gylchol, ill dwy o WRAP Cymru, â'r trafodion i ben.
Amlinellodd Ms Schmeider-Gaite raglen sefydlu gwerth WRAP.
Esboniodd sut mae'r cwmni wedi datblygu cyfres helaeth o adnoddau am ddim i fusnesau sydd â diddordeb mewn elwa o sefydlu gwerth.
Mae’r adnoddau'n cynnwys pecyn cymorth achosion busnes ac offeryn mapio i adnabod gwastraff a sgil-gynhyrchion a'r camau ar gyfer eu creu drwy'r broses gweithgynhyrchu.
Trafododd Ms Jay waith WRAP ar y gadwyn gwerth plastigau.
Amlygwyd Map Llwybr Plastig, a Chytundeb Plastig y DU, menter gydweithredol â'r bwriad o greu economi gylchol i blastigau gan ddod â busnesau, llywodraeth a chyrff anllywodraethol at ei gilydd i ymdrin â phla gwastraff plastig.
Noddwyd iLEGO 2019 gan Brosiect Cyd-dyfu Prifysgol Caerdydd, prosiect tair blynedd â'r nod o hwyluso cydweithio ar draws y sector diodydd yng Nghymru drwy gymhwyso ymchwil ar sail clwstwr.
Cynhadledd flynyddol yw iLEGO ac mae'n rhan o fenter ehangach sy'n cynnal ymchwil gymwysedig, gan gynnwys Prosiectau PhD a Chyfnewid Gwybodaeth a gydariannir mewn cwmnïau ac interniaethau haf i raddedigion prifysgol.