Tyfu Sgwrs y Stryd- prosiect ar y stryd unigryw!
2 Ebrill 2019
Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn brosiect tair blynedd newydd a chyffrous i bobl sy'n byw yn ardaloedd Grangetown a Sblot sydd am ddatblygu eu gerddi blaen a gwella golwg eu strydoedd.
Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn ymwneud ag ysbrydoli a galluogi pobl i wneud gwahaniaeth i’w hardal. Erbyn diwedd y prosiect, y nod yw cael nifer o strydoedd yn y ddwy ardal gyda chymdogion yn cydweithio i wneud eu strydoedd yn fwy gwyrdd, cyfeillgar a bywiog.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y tîm Tyfu Sgwrs y Stryd yn cynnal rhaglen o weithdai garddio creadigol a fydd yn dod â chymdogion ac aelodau'r gymuned at ei gilydd.
Rydym am roi sgiliau a chyfleoedd i'r trigolion i rannu syniadau i'w helpu i wella eu gerddi blaen ac i sefydlu grwpiau garddio bach ar y stryd. Erbyn diwedd 2019 ein gweledigaeth yw y bydd ystod o glybiau garddio yn cynnal y prosiect eu hunain.
Mae gan Michele Fitzsimmons rôl flaenllaw yn y prosiect hwn. Mae Michelle hefyd yn addysgu cyrsiau ar gyfer Addysg Barhaus a Phroffesiynol a bydd ei chwrs nesaf Cynllunio Eich Gardd Fwytadwy yn cael ei gynnal ym mis Mai 2019.
Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn cael ei rgynnal gan Brosiect Gerddi UpFront CIC, gyda chefnogaeth ein partneriaid cymunedol Cadw Sblot yn Daclus, Clwb Garddio Pentre a'r Loteri Fawr