Y Brifysgol yn cefnogi cynllun newydd i raddedigion
2 Ebrill 2019
Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi cynllun newydd i raddedigion sydd â'r nod o wella cynhyrchiant, arloesedd a thwf economaidd ymhlith busnesau yn Ne-ddwyrain Cymru a hyrwyddo'r rhanbarth fel cyrchfan ar gyfer graddedigion talentog.
Mae cabinet rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi dyrannu £175,000 ar gyfer cynllun peilot dros un flwyddyn fydd yn cynnig cefnogaeth a dargedir i fusnesau i'w helpu i greu 50 o interniaethau i raddedigion i ddechrau yn 2019/2020.
Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, a grwpiau sy’n cynrychioli busnesau, mewn ymateb i’r gyfradd isel o o raddedigion sy'n aros ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd ac Aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Mae'r nifer fawr o fyfyrwyr sy'n dewis astudio yma yn dangos faint mae Prifddinas-Ranbarth yn apelio at bobl ifanc. Fodd bynnag, mae llawer o'r rhai sydd am aros a chael swydd yma wedi eu tangyflogi ac yn gweithio mewn swyddi lle mae'r gofynion sgiliau yn is, yn enwedig y tu allan i'r sector cyhoeddus.
"Fel rhanbarth, mae angen i ni wneud yn well dros ein graddedigion. Er mwyn cynyddu cynhyrchiant, mae angen i ni ddangos i raddedigion sydd â chymwysterau da yng Nghymru bod cyfleoedd ar gael ar eu cyfer, a thynnu sylw at y buddsoddiadau sy'n cael eu gwneud mewn sectorau arloesol, fel technoleg ariannol, seiberddiogelwch, a lled-ddargludyddion cyfansawdd."
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun i raddedigion, gan gynnwys sut y gall busnesau gymryd rhan, ar gael ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn: http://ccrgraduatescheme.wales.
Bydd modd gwneud cais am swyddi gwag o fis Ebrill/Mai ar gyfer swyddi sy'n dechrau ym mis Medi 2019.