Chwarae ar yr afon
2 Ebrill 2019
Papur newydd, sy’n astudio effaith nodweddion y dirwedd ar amrywiaeth enynnol, yn amlygu pwysigrwydd coridorau o goedwig ar gyfer cadwraeth.
Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Conservation Genetics, yn ystyried effaith nodweddion y dirwedd, megis afonydd a ffyrdd, ar amrywiaeth enynnol mamolion bach ar Forneo.
Mamolion bach nad ydynt yn hedfan yw un o’r grwpiau mamolaidd mwyaf amrywiol ar Forneo. Fodd bynnag, nid yw gwyddonwyr yn gwybod llawer am eu gwasgariad na sut mae nodweddion daearyddol ac adeiledig yn dylanwadu ar sut maent yn mudo na’u strwythur genynnol.
Mae lleihau amrywiaeth enynnol ymhlith poblogaethau’n cynyddu’r risg o ddifodiant, ac yn effeithio ar wydnwch rhywogaethau rhag newidiadau amgylcheddol a sut maent yn gallu ymdopi â llai o gysylltedd yn eu cynefinoedd oherwydd y newid yn yr hinsawdd a datgoedwigo.
Meddai’r Athro Mike Bruford, un o awduron yr astudiaeth, “Er mwyn deall y poblogaethau a chymryd camau effeithiol i’w gwarchod, mae’n hanfodol ein bod yn deall gallu’r rhywogaethau i groesi nodweddion y dirwedd, sy’n rhwystro symudedd poblogaethau.”
Drwy ddefnyddio technegau geneteg boblogaethau, cafodd pwysigrwydd rhwystrau ffisegol ar hyd Afon Kinabatangan ar Forneo ei asesu ar gyfer ystod o anifeiliaid nad ydynt yn hedfan. Cafodd 19 o rywogaethau eu samplu ar draws y ddwy dorlan. Cafodd rhwystr yr afon wahanol effeithiau ar rywogaethau, ac roedd patrymau o arwahaniad genynnau o’r naill ochr i’r afon yn gwrthgyferbynnu â’i gilydd.
Er na ellid gwirio effeithiau ffyrdd ac allafonydd wedi’u palmentu ar rwystro symudedd, mae planhigfeydd olew palmwydd wedi rhwystro llif genynnol y rhywogaethau dan sylw yn ôl pob golwg. Mae mwy o gysylltedd genynnol ar ochr yr afon sydd â choedwig fwy di-dor o’i chymharu â’r ochr gyda choedwig fwy bylchog.
Ychwanegodd yr Athro Bruford, “Mae canlyniadau’r astudiaeth yn tanlinellu pwysigrwydd coridorau coedwig fel camau hanfodol ar gyfer cadwraeth a chynnal amrywiaeth enynnol rhywogaethau mewn tirwedd fylchog.”