G-BiKE: Rhwydwaith Ewropeaidd newydd ar Fioamrywiaeth Genomeg ar gyfer Ecosystemau Gwydn
1 Ebrill 2019
Rhwydwaith ymchwil sydd newydd ddechrau cael ei hariannu yn cysylltu gwyddonwyr ac ymarferwyr ar draws yr UE a thu hwnt, er mwyn amlygu pwysigrwydd offer geneteg a genomeg ym maes cadwraeth bioamrywiaeth.
Ar 8 Mawrth 2019, cynhaliodd Gwybodaeth Genomeg Bioamrywiaeth Weithredol er Gwydnwch (Action Genomic Biodiversity Knowledge for Resilient) (G-BiKE) ei gyfarfod cyntaf ym Mrwsel yn COST (European Cooperation in Science and Technology), gyda chynrychiolwyr o 31 gwlad yn cefnogi'r fenter.
Mewn amgylchedd sy'n prysur newid, mae gwydnwch ecosystemau yn dibynnu yn y pen draw ar allu rhywogaethau i addasu. Bydd G-BIKE yn sefydlu'r defnydd o ddata genomeg fel offeryn safonol ar gyfer monitro a rheoli rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cadw, a bod cyflenwad parhaus o wasanaethau ecosystem ar sail natur.
Bydd G-BIKE yn cynorthwyo gwyddonwyr ac ymarferwyr ar draws yr UE i fewnosod gwybodaeth eneteg ac esblygiadol mewn polisïau cynllunio cadwriaethol. Bydd hefyd yn hyrwyddo rheolaeth drawsffiniol a rhaglenni monitro tymor hir, gan ddatblygu offer monitro ac arweiniad safonol. Y nod yw gwneud yn siŵr bod y safonau'n cael eu rhoi ar waith wrth reoli safleoedd yn lleol ac, yn y pen draw, mewn polisi ledled yr UE. O ystyried effeithiau eithafol newid yn yr hinsawdd sy'n debygol o waethygu yn y degawdau sydd i ddod, mae angen gweithredu ar unwaith.
Bydd y rhwydwaith yn trefnu cyfleoedd i rwydweithio a hyfforddi, yn cynnig y protocolau ymarfer gorau ar gyfer monitro amrywiaeth geneteg, yn ogystal â fforwm ar-lein ynghylch yr offer sy'n dod i'r amlwg.
Bydd canlyniadau'r ymchwil hon yn cael eu rhannu gyda'r cyhoedd ar safleoedd Natura 2000, gerddi botaneg a sŵau, yn ogystal â'r gymuned wyddonol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Nevena Velickovic, Rheolwr Cyfathrebiadau Gwyddonol Gweithredol: nevena.velickovic@dbe.uns.ac.rs