Lleoliadau ymchwil ar gael dros yr haf
28 Mawrth 2019
Mae Mannau Cynaliadwy yn falch iawn o allu cynnig cyfle i ddau fyfyriwr israddedig o Brifysgol Caerdydd gael lleoliad ymchwil yn yr Athrofa yn ystod yr haf.
Bydd y myfyrwyr yn cefnogi gwaith ein Cymdeithion Ymchwil a’n Cymrodyr Ymchwil yn rhan o gynllun CUROP Prifysgol Caerdydd (Lleoliadau Cyfleoedd Ymchwil Prifysgol Caerdydd).
Mae Rhaglen CUROP yn cynnig lleoliadau dros yr haf i israddedigion Prifysgol Caerdydd yn amgylchedd ymchwil y Brifysgol, gan weithio o dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil wedi’u pennu gan staff.
Dyma’r lleoliadau ymchwil sydd ar gael:
T-GRAINS: Trawsffurfio a Magu Perthnasoedd o fewn systemau bwyd rhanbarthol er mwyn gwella maeth a chynaliadwyedd, o dan oruchwyliaeth Dr Angelina Sanderson Bellamy. Bydd y myfyriwr yn dod yn rhan o'r tîm ymchwil, sy'n cynnwys ecolegydd, cymdeithasegydd, mathemategydd, meddyg, gwyddonydd cyfrifiadurol a thri ymchwilydd ôl-ddoethurol.
Gwerthoedd ac arferion diwylliannol gyda dŵr, o dan oruchwyliaeth Dr Elisabeth Roberts. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle i fyfyriwr talentog ac uchelgeisiol weithio mewn canolfan ymchwil ddeinamig yn cyflawni prosiect i elusen gydnabyddedig sydd ar dwf, Glandŵr Cymru (Canal and Rivers Trust/CRT).
Gwerthusiad o ragnodi cymdeithasol ar gyfer heneiddio’n egnïol mewn Parc Cenedlaethol/tirwedd warchodedig, dan oruchwyliaeth Dr Sara MacBride-Stewart. Bydd myfyriwr yn cael profiad o gynnal gwerthusiad rhaglen o’r fenter Rhagnodi Cymdeithasol ‘Heneiddio’n Egnïol’ a gynhelir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac a gefnogir gan y bwrdd iechyd lleol.
Mae prosiectau CUROP yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr gael blas ar ymchwil fyw, gwella’u sgiliau academaidd a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch ymchwilio ymhellach ar lefel ôl-raddedig.
Ar gyfer ymchwilwyr, gallai ysgolheigion CUROP gyfrannu’n sylweddol at ddechrau a dilyniant prosiectau ymchwil a chynnig staff ychwanegol gwerthfawr yn ystod yr haf.
Ar ddiwedd yr haf, bydd yr holl fyfyrwyr CUROP ar draws y Brifysgol yn dod ynghyd am ddiwrnod i arddangos posteri eu hymchwil, gan rannu profiadau a rhannu canfyddiadau eu hymchwil i gynulleidfa'r Brifysgol.