Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy yn cyflwyno’r brif ddarlith flynyddol

10 Mawrth 2019

Tim Lang delivers PLACE keynote lecture

Croesawodd Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r DU ym maes polisi bwyd, yr Athro Tim Lang, i draddodi prif ddarlith flynyddol y Sefydliad.

Mae’r Athro Lang wedi bod yn Athro Polisi Bwyd yng Nghanolfan Polisi Bwyd Prifysgol Dinas Llundain ers 2002, ar ôl sefydlu’r Ganolfan ym 1994. Ers blynyddoedd lawer, mae Tim wedi bod yn cymryd rhan mewn ymchwil a thrafodaethau academaidd a chyhoeddus ynghylch cyfeiriad y maes yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ganddo ddiddordeb parhaus mewn sut mae polisïau yn mynd i’r afael â’r her gymysg o fod yn fwyd ar gyfer yr amgylchedd, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol a dinasyddion.

Yn ei ddarlith, fe drafododd yr Athro Lang gyflwr y system fwyd yn y DU sydd eisoes o dan bwysau. Fe ddadleuodd yr Athro Lang ei bod yn anghynaladwy mewn nifer o ffyrdd, yn cyfrannu at oblygiadau anuniongyrchol enfawr ym maes iechyd, a sut mae newidiadau yn y system economaidd yn gwasgu’r prif gynhyrchwyr.

Yn ystod y ddarlith, fe drafodwyd beth ellir ei wneud ynghylch system fwyd y DU ac a fydd Brexit - beth bynnag ei ffurf - yn gwella unrhyw beth. Fe drafododd yr Athro Lang hefyd a allai system fwyd ranbarthol yn y DU gynnig diet iachus a chynaliadwy?

Fe wnaeth y rhai oedd yn bresennol gymryd rhan mewn trafodaeth hefyd ynghylch sut y gall ffermio a bwyd yn y DU gyfrannu at ailadeiladu ecosystemau, gan gynnwys trafodaeth am sut y gellid defnyddio diet meincnod ar gyfer defnyddwyr y DU, a'i oblygiadau ar gyfer iechyd ac arferion bwyta.

Gallwch wylio’r ddarlith a’r drafodaeth yn llawn ar ein tudalennau YouTube.

Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau Mannau Cynaliadwy a gynhelir cyn bo hir, cofrestrwch i ymuno â’n rhestr bostio.

Rhannu’r stori hon