University supports ‘Who’s in Health?’ campaign
13 Hydref 2015
Deon Meddygaeth yn mynd i ddigwyddiad ysgol gynradd i greu dyheadau i fod yn rhan o'r proffesiwn gofal iechyd
Mae Deon Meddygaeth y Brifysgol wedi ymuno â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i helpu i greu dyheadau ymysg plant ifanc, drwy sôn am yr amrywiaeth enfawr o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar wahân i feddygon a nyrsys.
Mae'r Athro John Bligh, Deon yr Ysgol Meddygaeth wedi ymweld ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville yng Nghaerdydd, fel rhan o'r ymgyrch 'Who's in Health?'. Mae'r ymgyrch yn fenter sy'n ceisio rhoi cipolwg i blant ysgol gynradd o fywyd fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, eu hysbrydoli a dangos iddynt pa mor bwysig mae llythrennedd a rhifedd ar gyfer unrhyw broffesiwn yn y dyfodol.
Roedd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn ymweld â'r ysgol hefyd, a helpodd yr ymweliad i ddod â gyrfaoedd yn y maes gofal iechyd yn fyw. Y nod oedd annog plant i wella eu perfformiad academaidd a sylweddoli pwysigrwydd astudio er mwyn gwireddu eu breuddwydion.
Dywedodd yr Athro Bligh, a gyflwynodd anrheg i'r ysgol gan y Brifysgol yn ystod yr ymweliad:
"Mae pobl ifanc yn aml yn breuddwydio am eu gyrfaoedd ar ôl iddynt dyfu, ac i lawer, mae'r breuddwydion hynny'n cael eu pennu gan y profiadau a gânt yn eu bywydau.
"Mae'r prosiect hwn, 'Who's in Health?', yn ymwneud â rhoi blas i blant ysgol gynradd o sut beth fyddai bod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
"Ein nod yw ysbrydoli plant i freuddwydio, a dangos iddynt pa mor bwysig yw gwyddoniaeth, mathemateg ac iaith wrth wireddu'r breuddwydion hynny."
Mae'r ymgyrch 'Who's in Health?' yn cael ei gyflwyno ledled Cymru gan yr elusen Education and Employers, mewn partneriaeth â'r Cyngor Ysgolion Meddygol, fel rhan o raglen Primary Futures.
Mae Primary Futures yn rhaglen sy'n rhad ac am ddim ar gyfer ysgolion cynradd gwladol ledled y DU, sydd am helpu plant i ddeall y cysylltiad rhwng dysgu yn yr ysgol a'r byd gwaith, gan eu hysbrydoli i wella eu perfformiad academaidd.