Rôl allweddol Caerdydd yng Nghanolfan Diogelwch IoT y DU sy’n werth £14 miliwn
1 Ebrill 2019
Bydd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol mewn Canolfan Rhagoriaeth genedlaethol gwerth £13.8 miliwn ar gyfer diogelwch systemau sy'n gysylltiedig â'r Rhyngrwyd Pethau (IoT).
Bydd Canolfan Ymchwil Seibr-ddiogelwch y Brifysgol yn arwain ffrwd systemau hanfodol ar gyfer diogelwch y Ganolfan Rhagoriaeth Genedlaethol ar gyfer Systemau Seibr-ddiogelwch y Rhyngrwyd Pethau. Mae hyn yn rhan o fenter ehangach Llywodraeth y DU i arwain y byd o ran y Rhyngrwyd Pethau a’r systemau diogelwch cysylltiedig.
Bydd Caerdydd yn parhau i weithio gyda phrifysgolion a diwydiannau arweiniol eraill yn rhan o PETRAS (Preifatrwydd, Moeseg, Ymddiriedaeth, Dibynadwyedd, Derbynioldeb, a Diogelwch), Canolfan Rhagoriaeth Genedlaethol ar gyfer Systemau Seibr-ddiogelwch y Rhyngrwyd Pethau.
Bydd PETRAS yn ymchwilio i gyfleoedd a bygythion sy’n codi pan mae technolegau Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannol yn datblygu o fod yn systemau canolog i weithio ar gyrion y rhyngrwyd a rhwydweithiau lleol y Rhyngrwyd Pethau.
Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, fydd yn arwain ffrwd Caerdydd.
“Bydd y Rhyngrwyd Pethau yn ganolog i'r gymdeithas yn y dyfodol, a Phrifysgol Caerdydd fydd yn arwain yr elfen ddiogelwch yn y cadwyni cyflenwi a’r systemau rheoli sy’n hanfodol i’n seilwaith cenedlaethol. Rydym yn gweithio ar asio Deallusrwydd Artiffisial â modelu risg er mwyn deall methiannau rhaeadrol yn wyneb ymosodiadau seibr. Bydd hyn yn trawsffurfio’r genhedlaeth nesaf o fethodolegau diogelwch seibr sy’n gwarchod dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau yn seilweithiau critigol y dyfodol,” meddai.
Cyngor Ymchwil ac Arloesedd y DU sy’n ariannu’r gwaith, drwy Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) yn rhan o raglen Diogelu Technolegau Digidol ar y Cyrion (SDTaP). Bydd yr ail gam hwn o PETRAS yn cryfhau llwyfan llwyddiannus sydd wedi’i sefydlu’n barod.
Ers 2016, mae PETRAS wedi cydlynu a chynnull 11 o brifysgolion a 110 o Bartneriaid Defnyddiwr diwydiannol a llywodraethol ar gyfer cydweithio trawsddisgyblaethol.
Dywedodd yr Athro Lynn Gladden, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC): “Cronfa Blaenoriaethau Strategaethol UKRI sy’n ariannu’r Ganolfan Genedlaethol hon dros Ragoriaeth ar gyfer y Rhyngrwyd Pethau, a bydd y Ganolfan yn adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol yn Hwb PETRAS cychwynnol yn 2016. Mae gwaith y Ganolfan newydd hon yn hanfodol ar gyfer esblygiad y technolegau cydgysylltiedig fydd yn treiddio i mewn i’n cymdeithas dros y blynyddoedd nesaf. Mae cadernid ac amrywiaeth yr holl bartneriaid diwydiannol ac academaidd yn dystiolaeth o gryfder tîm PETRAS, a phwysigrwydd ymchwil ac arloesedd yn y maes hwn.”