Cyn-ddarlithydd yn rhoi gwaith celf gwyddonol i’r Ysgol
28 Mawrth 2019
Mae’r Athro Paul Pearson wedi rhoi darn o waith celf Richard Bizley i Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd.
Mae’r triptych acrylig yn darlunio grŵp o foraminifera morol, sy’n organebau ungellog gyda chregyn sy’n cael eu heffeithio’n hawdd gan newidiadau mewn cemeg y cefnforoedd.
Mae’r Athro Pearson yn arbenigwr ar astudiaethau esblygiadol a geocemegol o foraminifera planctonig, a’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am yr hanes hir o newid hinsoddol ar y Ddaear. Mae’n addysgu ac yn cynnal ymchwil yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ers 2003, ac mae bellach yn Athro Anrhydeddus.
Mae ei brosiect ymchwil presennol “Cylchu carbon cefnforol ers canol y Mïosen: Profi’r rhagdybiaeth fetabolig” yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC). Mae’n archwilio cylchu carbon morol - tynnu carbon o arwyneb y cefnfor a’i gludo drwy’r cefnfor i’r eigion - o Optimwm Hinsawdd Canol y Mïosen (MMCO) 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd heddiw. Ei nod yw llunio model fydd yn helpu gwyddonwyr i ddeall y newidiadau yng ngorffennol y cylchred carbon cefnforol a rhagfynegi newidiadau posibl yn y dyfodol.
Yn flaenorol, mae’r Athro Person wedi gweithio gyda'r arlunydd gwyddonol Richard Bizley ar adluniadau o foraminifera. Mae’r darn hwn o waith celf yn darlunio foraminifera planctonig fydd yn cael eu hastudio’n rhan o’r prosiect ymchwil ynghylch y gylchred carbon gefnforol.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn Oriel Viriamu Jones yn y Prif Adeilad o 28 Mawrth tan 1 Ebrill 2019. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei arddangos yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd.