Gallai profiadau plant tlotach yn ystod gwyliau'r haf fod yn peri risg i'w hiechyd meddwl
28 Mawrth 2019
Efallai fod iechyd meddwl a lles plant o deuluoedd tlotach yn wynebu mwy o risg oherwydd profiadau llai positif o wyliau haf yr ysgol, mae ymchwil newydd wedi’i ddatgelu.
Yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, yw’r cyntaf i archwilio sut gallai profiadau pobl ifanc o wyliau'r haf egluro gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol o ran iechyd meddwl a lles wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol.
Casglodd y gwaith ymchwil ddata hunan-gofnodedig gan 103,971 o blant (11-16 oed) o 193 o ysgolion uwchradd ar draws Cymru. Canfu’r ymchwil fod plant o gefndiroedd tlotach yn fwy tebygol o sôn am unigrwydd a diffyg bwyd dros wyliau’r haf, a'u bod yn llai tebygol o dreulio amser gyda ffrindiau neu gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Profodd pobl ifanc o deuluoedd tlotach iechyd meddwl a lles gwaeth wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref.
“Mae anghydraddoldebau ymysg plant a phobl ifanc wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diweddar, ac mae hyn wedi arwain at iechyd a lles gwaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd,” yn ôl arweinydd yr ymchwil, Dr Kelly Morgan o Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHeR) ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Yn aml, mae plant o deuluoedd incwm isel yn gallu cael prydau o fwyd rhad ac am ddim yn yr ysgol yn ystod y tymor. Ond, gall cael hyd i ddigon o arian am fwyd maethlon yn ystod gwyliau’r haf fod yn gryn her i lawer o deuluoedd.
“Mae diffyg cyfleoedd fforddiadwy am weithgareddau yn ystod gwyliau ysgol a chost uchel gofal plant yn gallu cyfyngu ar gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a rhyngweithiadau cymdeithasol, a chynyddu eu risg o unigrwydd.
“Mae’r heriau a wynebir gan deuluoedd incwm isel yn ystod y gwyliau wedi cael eu cydnabod yn y DU ac yn rhyngwladol. Cafwyd hwb ariannol gan elusennau a’r llywodraeth i wella’r ddarpariaeth i bobl ifanc yn ystod gwyliau’r ysgol, yn enwedig ar gyfer y teuluoedd hynny sy’n profi tlodi.
“Er bod gwaith cynharach wedi dangos bod cysylltiad rhwng statws economaidd-gymdeithasol ac iechyd meddwl a lles pobl ifanc, nid yw’r un astudiaeth wedi ystyried rôl profiadau yn ystod gwyliau haf yr ysgol.
O ystyried yr holl brofiadau o wyliau’r haf, canfu’r ymchwil mai unigrwydd oedd fwyaf cysylltiedig ag adroddiadau am les ac iechyd meddwl gwaeth. Adroddodd bron un o bob chwe pherson ifanc am brofiadau o unigrwydd yn ystod gwyliau’r haf.
Y gobaith yw bydd yr ymchwil hon yn annog y llywodraeth ar bob lefel i ystyried cynnig mwy o gefnogaeth benodol i blant tlotach.
Meddai Dr Morgan: “Mae ein canfyddiadau’n awgrymu bod ymyriadau yn ystod gwyliau’r ysgol sy’n gallu lleihau profiadau negyddol o wyliau’r haf, megis unigrwydd, eisiau bwyd, arwahaniad cymdeithasol ac anactifedd corfforol, yn gallu chwarae rhan mewn lleihau anghydraddoldebau economaidd gymdeithasol o ran iechyd meddwl a lles wrth i bobl ifanc ddychwelyd i’r ysgol.
“Wedi dweud hynny, mae’n bwysig cydnabod bod ymyriadau yn ystod gwyliau’r ysgol yn cynnig ateb byrdymor. Mae atebion strwythurol, er y byddant yn debygol o ofyn am fuddsoddiad sylweddol, yn hanfodol ar gyfer ymdrechion atal wrth i ni fynd ymlaen.”
Cyhoeddwyd yr ymchwil, â'r teitl Socio-economic inequalities in adolescent summer holiday experiences, and mental wellbeing on return to school: analysis of the School Health Research Network / Health Behaviour in School-aged Children survey in Wales, yn International Journal of Environmental Research and Public Health.