Myfyriwr ôl-raddedig yn ennill gwobr gan gyfnodolyn
29 Mawrth 2019
Myfyriwr ôl-raddedig yn ennill gwobr gan gyfnodolyn
Yr ymgeisydd PhD Hanes, Pierre Gaite, yn ennill Gwobr De Re Militari Gillingham.
Mae’r wobr, sydd wedi’i henwi ar ôl yr ysgolhaig o Loegr, John Gillingham, yn cael ei rhoi i’r erthygl orau yn rhifyn y flwyddyn flaenorol o’r Journal of Medieval Military History.
Mae Pierre Gaite yn gwneud PhD ynghylch rôl a hunaniaeth marchogion cartref yn Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’n gwneud hyn o dan oruchwyliaeth Helen Nicholson, Athro Hanes Canoloesol, a Dr Bronach Kane, Darlithydd Hanes Canoloesol.
Bydd ei erthygl Exercises in Arms: The Physical and Mental Combat Training of Men-at-Arms in the Fourteenth and Fifteenth Centuries yn cael ei chynnwys hefyd yn y traethawd hir sydd ar y gweill.
Mae astudio Hanes yn y Brifysgol yn amrywio o lefel israddedig, gan gynnwys BA Cydanrhydedd gydag Archaeoleg a Hanes yr Henfyd, i lefel ôl-raddedig.