Gallai tyfu cnydau mintys newydd roi hwb i economïau gwledig yn Uganda
26 Mawrth 2019
Bydd prosiect cydweithredol newydd yn cefnogi datblygiad cymunedau lleol yn ardaloedd gwledig Uganda drwy greu a masnachu mathau newydd o fintys.
Mewn cydweithrediad â phartneriaid yn Uganda, bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn cyfuno ymchwil gwyddonol gyda gweithgareddau ymgysylltu, hyfforddi a masnachu, i gefnogi cymunedau lleol Uganda i dyfu cnydau mintys, gyda’r nod o ddatblygu cynnyrch olew-mintys newydd er budd masnach lleol.
Mae dail planhigion mintys yn creu sawl olew hanfodol; a menthol yw’r brif elfen. Mae’r olewon hanfodol hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd; o gyflasynnau bwyd, hyd at golur a chynnyrch gofal personol megis past dannedd a gel cawod. Mae rhywogaethau mintys pîn hefyd yn cynnwys nepetalactone; cemegyn naturiol pwerus sy'n cadw pryfed draw. Gwerth y farchnad ar gyfer cynnyrch mintys sy’n deillio o olew yw tua $800m y flwyddyn.
“Wrth ystyried gwerth masnachol enfawr echdynion olew mintys, rydym yn hyderus y gallai tyfu cnydau mintys ar raddfa fawr yn Uganda fod yn adnodd hyfyw i greu olewon mintys hanfodol sy’n gystadleuol yn fyd-eang”, eglurodd arweinydd y prosiect Dr Simon Scofield o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.
“Gyda help gan grant BBSRC, ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Makerere (Uganda), rydym yn bwriadu datblygu mathau newydd o fintys a allai gael eu tyfu yn ardaloedd gwledig Uganda i greu llawer o olewon hanfodol, sy’n cynnwys menthol neu nepatalactone. Gellir defnyddio’r olewon hyn i ddatblygu cynhyrchion lleol er budd economi ardaloedd gwledig Uganda.”
Gan ddefnyddio dadansoddiad biocemegol a pheirianneg fetabolig, bydd tîm y prosiect yn sgrinio amrywiaeth o fathau mintys i weld pa rai sy’n cynhyrchu llawer o fenthol neu nepetalactone. Y cam nesaf fydd trin genynnau allweddol sy’n rhan o fiosynthesis olewon hanfodol, er mwyn cynyddu cynhyrchiant menthol a chreu amrywiadau mintys newydd, 'elît'. Bydd yr amrywiadau mwyaf addawol yn ymgymryd â threialon maes i bennu eu hyfywedd i dyfu o dan amodau sy’n amrywio mewn tair ardal yn Uganda.
Bydd rhan sylweddol o’r prosiect yn ymwneud â gwella sgiliau cymunedau lleol a chefnogi mentrau busnes lleol sy’n dechrau o ganlyniad i’r prosiect. Bydd grwpiau Mentrau Cymunedol lleol newydd yn lledaenu a dosbarthu deunydd planhigion i ffermwyr a chynnig hyfforddiant angenrheidiol i’w galluogi i amaethu a chynaeafu cnydau yn effeithiol.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â thrigolion lleol a sefydliadau cymunedol, gallwn wneud yn siŵr bod unrhyw fanteision ariannol cynaliadwy yn eiddo i’r cymunedau lleol yn bennaf,” dywedodd Dr Peter Randerson o Ysgol y Biowyddorau, sy’n gyfrifol am gydlynu’r cysylltiadau gyda grwpiau menter gymunedol yn Uganda.
“Bydd hwn yn galluogi poblogaethau gwledig i fanteisio mewn modd cynaliadwy ar gynhyrchu olewon mintys hanfodol, a helpu i gefnogi a gwella rhagolygon hirdymor cymunedau lleol yn ardaloedd gwledig Uganda.”