Ewch i’r prif gynnwys

Cangen Caerdydd yn dathlu amrywiaeth ymchwil y Brifysgol

26 Mawrth 2019

Cangen Caerdydd o Goleg Cymraeg Cenedlaethol Cymru yn gwobrwyo ymchwilwyr llwyddiannus.
Cangen Caerdydd o Goleg Cymraeg Cenedlaethol Cymru yn gwobrwyo ymchwilwyr llwyddiannus.

Daeth Cangen Prifysgol Caerdydd o’r Coleg Cymraeg at ei gilydd brynhawn dydd Gŵyl Dewi eleni i ddathlu amrywiaeth gwaith ymchwil y Brifysgol.

Bwriad y Symposiwm Ymchwil cyntaf hwn oedd amlygu’r ystod eang o ymchwil sydd yn digwydd ar draws y Brifysgol a chynnig cyfle i ymchwilwyr gyflwyno eu gwaith i gynulleidfa newydd, a hynny i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae prinder cyfleoedd i drafod ymchwil yn y Gymraeg a braf hefyd cael academyddion a gwasanaethau megis llyfrgellwyr i ddod ynghyd a chymdeithasu.

Daeth y mynychwyr, yn ddarlithwyr, myfyrwyr, swyddogion y Coleg Cymraeg a staff ehangach y brifysgol at ei gilydd yn adeilad newydd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn 2 Sgwâr Canolog Caerdydd.

Agorwyd y Symposiwm gan Aled Huw, sydd yn ddarlithydd Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau ar secondiad o’r BBC.  Agorodd Aled gyda’r dyfyniad enwog “For Wales, see England”, cofnod yn un o argraffiadau cynnar Britannica. Bu’n trafod y Wasg Gymraeg, newyddiaduraeth a chyfathrebu a pwysigrwydd gwybodaeth am Gymru - “yn bwysicach nag erioed”.

I fyd Richard Price, yr athronydd, diwinydd a’r mathemategydd o Langeinor aeth y Dr Huw Williams, Deon yr Iaith Gymraeg â ni wedyn, gan ein hannog ym Mhrifysgol Caerdydd i gydweithio i ddatblygu cymuned ddeallusol cyfrwng Cymraeg.   “Gallwn wneud hynny trwy i bob un ohonom wneud y pethau bychain” oedd ei neges amserol.

I ddilyn, rhoddodd Simon Ward, Athro Sêr Cymru Darganfod Cyffuriau Trosiadol a Chyfarwyddwr Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, fewnwelediad i’w waith ymchwil ar ddarganfod meddyginiaethau arloesol, yn arbennig ar gyfer Niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.

Un o fyfyrwyr ymchwil dan nawdd Cynllun Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg Cymraeg yw Rhianwen Daniel, a gyflwynodd ei hymchwil sydd yn rhoi cyd-destun Cymraeg i astudiaethau rhyngwladol ar iaith ac hunaniaeth.

Teg dweud fod y gynulleidfa wedi synnu ar y cyflwyniad digon emosiynol a gafwyd gan y Dr Emyr Lloyd-Evans o Ysgol y Biowyddorau. Mae’n gwneud gwaith ymchwil ar ddatblygu triniaethau arbrofol a chlinigol ar gyfer plant sydd yn dioddef o glefydau niwrolegol prin.

Eglurodd fel y mae’n canolbwyntio ar afiechydon lysosomal sydd yn effeithio ar rhyw 1 ym mhob 5,000 o’r boblogaeth. Yn benodol, afiechyd Niemann Pick. Cafwyd cyflwyniad gwych o safbwynt gwyddonol a hefyd o ran y profiad dynol o weithio gyda phlant sydd ag afiechydon prin a’u teuluoedd. “Braint cael gwrando”, medd Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg.

Daethpwyd â’r Symposiwm Ymchwil Gŵyl Ddewi i ben gan Gadeirydd y Gangen, Dr Jonathan Morris, darlithydd mewn Ieithyddiaeth yn Ysgol y Gymraeg. Soniodd am y rôl sylweddol y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ei chwarae mewn hybu ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Dywedodd fod ysgoloriaethau a grantiau’r Coleg Cymraeg wedi ein galluogi i weithio ar draws bynciau er mwyn creu ymchwil ryngddisgyblaethol a dysgu arloesol.

Y bwriad yw cynnal Symposiwm o’r fath yn flynyddol, ac yn dilyn yr ymateb gadarnhaol a gafwyd a’r sgyrsiau difyr yn dilyn y cyflwyniadau, bydd croeso mawr ymysg staff y Brifysgol i ddigwyddiad o’r fath eto.

Hoffai’r Gangen ddiolch yn fawr iawn i’r holl siaradwyr a’r mynychwyr a sicrhaodd brynhawn difyr dros ben ac edrychwn ymlaen at y nesaf. “Cyfle i ni ymfalchïo yn ein tras, ein diwylliant a’n hymchwil yma ym Mhrifysgol Caerdydd” Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

I ategu'r hyn a ddywedwyd gan Dr Jonathan Morris ac eraill yn ystod y Symposiwm, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor ar y 19 Mawrth, anrhydeddwyd myfyrwyr ymchwil sydd wedi sicrhau doethuriaethau o dan nawdd y Coleg. Yng nghynulliad eleni, roedd pump o'r wyth oedd yn cael eu anrhydeddu yn fyfyrwyr ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Hoffai'r Gangen longyfarch y pump am eu llwyddiant diweddar, a'u croesawu i'r gymuned gynyddol o ymchwilwyr ac academyddion sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Llongyfarchiadau mawr i Dr Ifan Jams, Gwyddorau Biolegol; Dr Rhidian Thomas, Gwyddorau Biolegol; Dr Gwenno Griffith, Cymraeg; Dr Sion Llywelyn Jones, Gwyddorau Cymdeithasol a Dr Ben Screen, Cymraeg.

Gwyliwch allan am fwy o gyfleoedd i drafod, dathlu a datblygu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg dros y misoedd nesaf, megis Cynhadledd Ymchwil Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar 3 Gorffennaf.

Rhannu’r stori hon