Technoleg micronodwyddau’n cael sêl bendith
25 Mawrth 2019
Mae arloeswyr ym Medicentre Caerdydd wedi datblygu technoleg micronodwyddau a allai roi diwedd ar fathau o bigiadau.
Mae Picofluidics Cyf, sy’n gweithio ym meithrinfa busnesau technoleg feddygol Prifysgol Caerdydd, wedi cyflawni cyfres o brofion trylwyr o’r cysyniad.
Gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Coventry ac arian gan Innovate UK, mae Picofluidics yn paratoi ar gyfer y farchnad.
Mae micronodwyddau, sy’n fwy tenau na blewyn dynol, yn cyflwyno meddyginiaethau’n fwy effeithiol na nodwyddau tangroenol. Yn aml fe’u defnyddir ar ffurf patsh a roddir ar groen y claf.
Mae rhagbrofion wedi cadarnhau hyfywedd economaidd technoleg trin plasma Picofluidics. Gyda’r dechnoleg hon, mae modd cynhyrchu casgliadau o lawer o filoedd o ficronodwyddau’n gost-effeithiol.
Mae Medicentre Caerdydd, a reolir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn meithrin cwmnïau technoleg fiolegol a meddygol sy’n dechrau arni.
Dywedodd Dr John Macneil, sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Picofluidics, “Rydym wedi cyrraedd y garreg filltir hon ar ôl blynyddoedd maith o waith labordy, yn datblygu math penodol o ficronodwydd y gellir ei chynhyrchu am un degfed o gost y rheini sydd ar y farchnad ar hyn o bryd. Bellach, rydym yn awyddus i gydweithio â phartneriaid er mwyn masnacheiddio ein technoleg a chyflwyno’r manteision i gleifion.”
Mae Dr Macneil yn credu bod gan y micronodwyddau lawer o ddefnyddiau posibl, o roi pigiadau di-boen o feddyginiaethau megis brechlynnau neu inswlin, i dynnu hylif mewngroenol er mwyn rhoi diagnosis a chanfod clefydau’n gynnar. Mae dyfnder bas eu treiddiad yn golygu bod micronodwyddau’n addas iawn i gyflwyno triniaethau ar gyfer problemau croenol, megis rhai ffurfiau ar ganser y croen.
“Er bod posibilrwydd y gallem ddisodli llawer o bigiadau safonol â phatsh micronodwyddau, rydym yn credu y caiff y micronodwyddau eu defnyddio at ddibenion arbenigol iawn i ddechrau. Bydd y rhain yn cynnwys lleddfu poen, lle gallai cleifion osod eu patsh eu hunain yn lle defnyddio hufen neu gel,” meddai Dr Macneil, sydd â MBA gan Ysgol Busnes Caerdydd.
“Ar ôl hynny, disgwyliwn i’n micronodwyddau ddechrau disodli chwistrelli er mwyn cyflwyno rhai meddyginiaethau. Ar ben bod yn opsiwn mwy cyfforddus i gleifion, mae ein micronodwyddau’n cynhyrchu llai o wastraff ac efallai bydd modd gwell rheoli’r dos a gyflwynir. Bydd y dechnoleg hon yn arwain at driniaethau a deilliannau gwell i gleifion.”
Sefydlwyd Picofluidics yn 2009, ac mae’n cynnal ymchwil, yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu eu holl gynhyrchion yn eu labordy ym Medicentre Caerdydd - y feithrinfa ar gyfer cwmnïau technoleg feddygol a biolegol.
Dywedodd Dr Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau ym Medicentre Caerdydd, “Mae John a’i dîm wedi bod yn denantiaid Medicentre ers 2010 ac mae wedi bod yn bleser cefnogi tyfiant y cwmni. Mae bob amser yn wych gweld syniadau’n cael eu rhoi ar waith. Rwy’n ffyddiog iawn y bydd y dechnoleg y mae Picofluidics wedi’i harneisio yn cael ei defnyddio’n helaeth ar draws y gymuned gofal iechyd, ymhen ychydig flynyddoedd.”