Siâp 3D protein sy’n ymwneud â rheoli pwysedd gwaed wedi’i ganfod
22 Mawrth 2019
Mae tîm o ymchwilwyr a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd wedi datguddio strwythur 3 dimensiwn protein sy’n ymwneud â rheoli pwysedd gwaed. Bydd y darganfyddiad hwn yn hwyluso’r gwaith o ddod o hyd i gyffuriau gwrthorbwysol newydd.
Mae llawer o ensymau’r corff yn rheoleiddio pwysedd gwaed yn dynn, gan gynnwys dau brotein o’r enw SPAK ac OSR1. Mae amryw astudiaethau wedi dangos bod atal y ddau ensym hyn rhag gweithredu yn gostwng pwysedd gwaed. Felly, mae llawer o ymdrech wedi’i neilltuo i ddod o hyd i foleciwlau newydd sy’n atal yr ensymau hyn.
Hyd yn hyn, mae diffyg dealltwriaeth o strwythur 3D llawn y proteinau hyn wedi rhwystro’r gwaith o ddarganfod moleciwlau sy’n clymu wrth SPAK ac OSR1, ac yn gostwng pwysedd gwaed o ganlyniad. Gyda’r nod o fynd i'r afael â’r diffyg gwybodaeth hwn, defnyddiodd Dr. Mehellou, ynghyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Birmingham, dechneg o’r enw NMR i ganfod strwythur 3D rhan o brotein OSR1, sy’n bwysig i’w gweithrediad. Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn y cylchgrawn Biochemical and Biophysical Research Communications, ac mae’n adrodd am y tro cyntaf i’r dechneg NMR gael ei defnyddio i ganfod siâp 3D rhan o OSR1. Mae’r astudiaeth bellach yn adnodd pwerus allai gyflymu’r gwaith o ddarganfod moleciwlau newydd sy’n clymu wrth OSR1 ac sy’n gostwng pwysedd gwaed.
Meddai Dr. Youcef Mehellou, a arweiniodd yr astudiaeth ar y cyd: “Am lawer o flynyddoedd, mae’r diffyg gwybodaeth am ei siâp 3D wedi rhwystro’r gwaith o ddarganfod triniaethau newydd ar gyfer gorbwysedd sy’n gweithio drwy atal ensym OSR1 rhag gweithredu. Gyda’n darganfyddiad, mae gennym adnodd pwerus bellach fydd yn hwyluso’r broses o ddarganfod cyffuriau gwrthorbwysol newydd, a’i chyflymu”.
Ceir mwy o fanylion am yr astudiaeth hon yma.