Campws Arloesedd Caerdydd yn agor ei ddrysau
21 Mawrth 2019
Bydd y cwmni sy’n adeiladu Campws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd yn agor giatiau’r safle yfory a dydd Sadwrn (22-23 Mawrth).
Mae Bouygues UK yn cymryd rhan mewn digwyddiad ledled y DU, Open Doors, lle mae safleoedd adeiladu’n agor i’r cyhoedd ac ysgolion ar gyfer teithiau tywys wedi’u trefnu ymlaen llaw. Bydd y rhain yn hyrwyddo gyrfaoedd ym maes adeiladu.
Bydd y Campws newydd o’r radd flaenaf ac yn ‘Gartref Arloesedd’ lle bydd y staff a’r myfyrwyr yn magu gyrfaoedd, busnesau a mentrau cymdeithasol.
Bydd yn cynnwys dau adeilad newydd - Arloesedd Canolog a'r Cyfleuster Ymchwil Drosiadol.
Bydd Arloesedd Canolog, a ddyluniwyd gan benseiri arobryn Hawkins\Brown, yn gartref i SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd a'r Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaethau.
Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol, a ddyluniwyd gan benseiri HOK, yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.
Meddai Justin Moore, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bouygues UK dros Gymru: “Rydym wrth ein boddau’n agor drysau ein safle i’r cyhoedd ar gyfer Wythnos Drysau Agored. Mae Canolfan Arloesedd Caerdydd yn brosiect adeiladu cyffrous a heriol o safbwynt technegol. Gobeithiwn y bydd gadael i bobl ei weld yn amlygu gwaith cyffrous y diwydiant ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan. Bydd adeiladau’r Campws yn cynnwys mannau creadigol, darlithfa, labordai a swyddfeydd lle gall partneriaethau arloesol ffynnu. Rydym yn falch bod Caerdydd yn cymryd rhan yn y fath brosiect arloesol.”
Ychwanegodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd dros Ymchwil, Arloesedd a Menter, “Syniad da yw rhoi cyfle i’r cyhoedd weld sut rydym yn llywio arloesedd yn ne Cymru. Mae’r Campws newydd yn cynrychioli buddsoddiad hirdymor mewn gyrfaoedd pobl. Heb y cyfleusterau iawn, ni allai ein harloeswyr fagu partneriaethau, busnesau neu fentrau cymdeithasol sy’n creu cyfoeth cymdeithasol ehangach. Ni yw'r sefydliad academaidd mwyaf blaenllaw yng Nghymru o safbwynt arloesedd, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau sy’n helpu partneriaid preifat, cyhoeddus a Thrydydd Sector i ddatgloi pŵer eu hymchwil.”
Bydd Campws Arloesedd Caerdydd, ar Heol Maendy, yn cynnal dwy sesiwn ‘Drysau Agored’ ddydd Gwener 22 Mawrth (2.00-3.00) a dydd Sadwrn 23 Mawrth (9.30-10.30). Gellir cadw lle drwy wefan Open Doors.
Bydd Bouygues UK yn agor 12 o’i safleoedd yn ystod Wythnos Drysau Agored, a gall y cyhoedd weld mwy na 250 o brosiectau adeiladu yn y DU.