Y DU i gael canolfan £5 miliwn ar gyfer ymchwil i’r newid yn yr hinsawdd
21 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis i fod y brif hyb ar gyfer canolfan ymchwil £5 miliwn. Bydd yn ystyried sut gallwn fyw’n wahanol er mwyn cyflawni’r toriadau cyflym a phellgyrhaeddol mewn allyriadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Ganolfan ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol yn brosiect ar y cyd â Phrifysgolion Caerdydd, Manceinion, Caer Efrog ac East Anglia, a’r elusen Climate Outreach. Bydd y Ganolfan yn gweithio’n agos gyda diwydiant, llywodraethau lleol/cenedlaethol ac elusennau i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan newydd, yr Athro Lorraine Whitmarsh o Brifysgol Caerdydd: “Er bod momentwm rhyngwladol bellach i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae’n glir y bydd targedau critigol, fel cyfyngu’r cynnydd yn nhymheredd y byd i lai na 2 radd Celsius o’i gymharu â lefelau cynddiwydiannol, yn methu os nad yw cymdeithas gyfan yn trawsnewid yn sylfaenol.
“Yn y Ganolfan ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol, rydym yn cydnabod bod y newid yn yr hinsawdd yn argyfwng sy’n galw am gamau ar raddfa lawer mwy na’r hyn a welwyd hyd yn hyn. Byddwn yn ateb cwestiynau sylfaenol ynghylch sut gallwn fyw’n wahanol ac yn well, mewn ffyrdd sy’n diwallu’r angen am gwtogi allyriadau’n systemig, yn ddwys ac yn gyflym.”
Bydd y Ganolfan yn sefydlu rhaglen o ymchwil gwyddoniaeth gymdeithasol sy’n gweld pobl wrth wraidd y trawsffurfio sydd ei angen i greu cymdeithas garbon isel a chynaliadwy. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar bedwar prif faes mewn bywyd bob dydd sy’n cyfrannu’n sylweddol at y newid yn yr hinsawdd, ond sy’n gyndyn o newid er gwell. Mae’r rhain yn cynnwys treulio nwyddau a chynhyrchion diriaethol; bwyd a deiet; teithio; a gwresogi/oeri adeiladau.
Gweithio gyda'r cyhoedd
Drwy weithio’n agos gyda’r cyhoedd i ddatblygu gweledigaethau o ddyfodol carbon-isel sy’n ysbrydoledig ac eto’n ymarferol, bydd y Ganolfan yn ceisio datblygu ymatebion i’r newid yn yr hinsawdd sy’n pwysleisio manteision mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gallai’r manteision hyn gynnwys hyrwyddo lles ac aer glân drwy ddibynnu’n llai ar geir.
Fel mae protestiadau diweddar yn Ffrainc wedi’i ddangos, mae polisïau sydd am gwtogi tanwyddau ffosil yn gallu codi gwrthwynebiad croch os gwelir nhw’n annheg neu’n groes i anghenion pobl. Felly, mae’n hanfodol deall sut i newid cymdeithas mewn ffyrdd newydd ac ysgogol. Bydd yr ymchwilwyr yn gwneud hyn drwy weithio’n agos â’r cyhoedd, sefydlu cynulliad i ddinasyddion a phanel o bobl ifanc i wneud yn siŵr bod pryderon allweddol y cyhoedd yn rhan greiddiol o’r Ganolfan.
Yn ogystal ag edrych i’r dyfodol, mae’r Ganolfan am ddysgu gwersi gan y gorffennol a’r newidiadau parhaus sydd wedi codi ar draws cymdeithasau.
Ychwanegodd yr Athro Whitmarsh: “Mae llwyddiant y cyhoedd i leihau lefelau ysmygu yn dangos y gall newid rheoliadau a chreu cymelliadau, ynghyd â chefnogaeth gan ymarferwyr iechyd, arwain at newidiadau mawr mewn diwylliant ac ymddygiad pobl.
“Mae ymchwil wedi dangos y gallai newid sut rydym yn bwyta ac yn cynhyrchu bwyd gwtogi allyriadau’n sylweddol a chyflwyno manteision i’n hiechyd. Yn bennaf, gwneir hyn drwy ddefnyddio llai o gig a chynhyrchion llaeth. Er yr arwyddion bod pobl yn newid sut maent yn defnyddio cig, gofynnir am ddulliau parhaus a deallusol i symud ymlaen mewn ffyrdd na fydd y cyhoedd yn eu diystyru neu lunwyr polisïau’n eu hwfftio am fod yn ‘afrealistig’.”
Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: “Dim ond os bydd pawb yn gwneud ei ran y gallwn gyflawni dyfodol carbon isel. Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod pa mor enfawr yw’r her, ond ni allwn ei hosgoi. Heddiw, rwy’n lansio Ffyniant i Bawb: Cymru Garbon Isel, sy’n egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau allyriadau carbon.
“Ochr yn ochr â hyn, rydw i wrth fy modd y bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain y gwaith o sefydlu’r ganolfan ymchwil newydd hon. Rydym wedi cydweithio’n agos ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a’i phartneriaid er mwyn llywio’r prosiectau y mae’r Ganolfan yn eu cynllunio."
Dwyn newid cymdeithasol ar bob lefel o'r gymdeithas
Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio’n gryf ar atebion ymarferol ac yn arbrofi â dulliau sbarduno newidiadau cymdeithasol ar bob lefel, drwy ddefnyddio technegau newid ymddygiad, torri arferion ac annog teithio mwy corfforol. Drwy weithio gydag elusennau, bydd y tîm yn treialu ymyriadau ymarferol ar lefel gymunedol i gwtogi allyriadau domestig. Gyda phartneriaid diwydiannol, bydd y tîm yn hyrwyddo arferion cynaliadwy yn y gweithle.
Bydd yr ymchwilwyr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chynghorau dinas i ddatblygu a defnyddio dulliau i gwtogi allyriadau ac ymgysylltu’n well â’r cyhoedd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Hefyd, byddant yn gweithio gyda gwleidyddion a llunwyr polisïau yn y DU a thu hwnt i bwysleisio y dylid gweithredu ar sail canlyniadau ymchwil mewn ffyrdd sy’n meithrin newid go iawn.
Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: “Dyma Ganolfan hynod bwysig i’w hariannu achos mae’n canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu a phrofi dulliau effeithiol o gyfathrebu’r newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau. Er bod dirfawr angen mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae ymchwilwyr yn gwybod mai prin y mae pobl yn ei drafod bob dydd. Mae hyn yn golygu bod cyfleoedd am drafodaethau ystyrlon ac ymatebion ymarferol mewn bywyd bob dydd yn cael eu colli. Bydd y Ganolfan hon yn gweithio ar bob lefel o gymdeithas, gyda sawl partner, ac yn gwneud yn siŵr bod pobl yn greiddiol i’r newidiadau sydd eu hangen. Bydd hyn yn cyflwyno mwy o degwch ac yn canfod y dulliau realistig o ddiwallu’r angen hwn.”