Academyddion Caerdydd yn llunio polisi'r Cenhedloedd Unedig ar "heriau byd-eang pwysig"
9 Hydref 2015
Tri o academyddion Prifysgol Caerdydd yn cael eu penodi i Unedau Polisi'r Cenhedloedd Unedig i lunio agendâu ar dai a datblygu trefol cynaliadwy
Penodwyd tri o academyddion o'r Brifysgol i Unedau Polisi, i lunio'r agenda ar gyfer cynhadledd bwysig gan y Cenhedloedd Unedig y flwyddyn nesaf.
Cynhelir Habitat III, y drydedd gynhadledd Habitat fyd-eang i'w chynnal gan y Cenhedloedd Unedig, yn Ecwador ym mis Hydref 2016, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu a threfoli cynaliadwy.
Mae academyddion y Brifysgol ymysg 200 o arbenigwyr byd-eang a ddewiswyd i ddarparu lefel uchel o arbenigedd ac i bwyso a mesur gwybodaeth fodern. Enwebwyd arbenigwyr gan aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig ac Ysgrifennydd Cyffredinol y gynhadledd.
Bydd yr arbenigwyr yn datblygu argymhellion annibynnol ar ddimensiynau datblygu trefol cynaliadwy, er mwyn gwneud yn siŵr bod trefoli cynaliadwy yn parhau i ysgogi datblygiad a lleihau tlodi.
Bydd eu hargymhellion yn cyfrannu at ddogfen allbwn y gynhadledd, The New Urban Agenda, a fydd yn cael ei mabwysiadu gan aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig.
Mae'r Athro Alison Brown, Athro Cynllunio Trefol a Datblygu Rhyngwladol yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, wedi'i phenodi i'r Uned Polisi ar 'yr hawl i'r ddinas a dinasoedd i bawb'. Bydd yn manteisio ar ei harbenigedd helaeth yn y de byd-eang (global south) ac o ran economïau anffurfiol trefol.
Penodwyd yr Athro Ambreena Manji, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, i'r Uned Polisi ar fframweithiau trefol diwylliannol-gymdeithasol, gan dynnu ar ei harbenigedd mewn datblygu'r gyfraith ac astudiaethau cyfreithiol Affricanaidd. Mae wedi cyhoeddi'n eang ar ddiwygio'r gyfraith tir yn nwyrain Affrica.
Penodwyd Dr Oleg Golubchikov, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, i ganolbwyntio ar arian trefol a systemau ariannol lleol. Mae wedi ysgrifennu adroddiadau rhanbarthol ar Rwsia a Dwyrain Ewrop, ac yn y gorffennol, mae wedi cynghori'r Cenhedloedd Unedig ar ddatblygu trefol a rhanbarthol, dinasoedd cynaliadwy ac effeithlonrwydd ynni.
Yn ôl yr Athro Alison Brown: "Mae Habitat III yn gyfle unigryw i fynd i'r afael â dwy her fyd-eang bwysicaf yr 21ain ganrif – tlodi a'r newid yn yr hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae dros hanner poblogaeth y byd yn byw mewn dinasoedd, ond bydd hyn yn cynyddu i ddwy ran o dair erbyn 2050. Mae gwir angen i'r gymuned fyd-eang ailfeddwl am brosesau trefoli, a chreu dinasoedd cynhwysol a gwydn y dyfodol."
Cynhelir Habitat III, Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Dai a Datblygu Trefol Cynaliadwy, yn Quito, Ecwador, rhwng 17 a 20 Hydref 2016.