Plant cyntaf-anedig yn fwy tebygol o fynd yn fyr eu golwg
9 Hydref 2015
Mae ymchwil gan y Brifysgol yn dangos bod unigolion cyntaf-anedig hyd at 20% yn fwy tebygol o fynd yn fyr eu golwg o'u cymharu â phlant a enir yn ddiweddarach
Mae astudiaeth fawr o dan arweiniad ymchwilwyr o'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, wedi dangos bod plant cyntaf-anedig yn fwy tebygol o ddatblygu myopia – neu olwg byr – na phlant a enir yn ddiweddarach.
Cymerodd bron 90,000 o bobl 49-60 oed yn y DU ran yn yr astudiaeth hon a ddangosodd bod unigolion cyntaf-anedig tua 10% yn fwy tebygol o gael myopia. Dangosodd hefyd eu bod tua 20% yn fwy tebygol o gael ffurf mwy difrifol o'r cyflwr, o'u cymharu â'r rhai a enir yn ddiweddarach.
Gall myopia, neu olwg byr, arwain yn aml at nam ar y golwg a dallineb. Mae'n fater iechyd cyhoeddus cynyddol bwysig, yn rhannol oherwydd ei bod yn fwyfwy cyffredin ymysg cenedlaethau iau mewn sawl rhan o'r byd.
Daeth yr ymchwilwyr o hyd i dystiolaeth sy'n awgrymu y gallai addysg ddiogelu plant a enir yn ddiweddarach rhag myopia. Roedd hyn oherwydd bod rhieni'n buddsoddi mwy mewn gweithgareddau addysg ar gyfer plant cyntaf-anedig, er na ddaethpwyd o hyd i gysylltiad achosol.
Ysgrifennodd y tîm, a arweinir gan yr Athro Jeremy Guggenheim o'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Llygaid: "Mae'r canlyniadau'n ailadrodd canfyddiadau cynharach o 2 garfan ryngwladol a chyfoes o oedolion a phlant ifanc, gan awgrymu bod y cysylltiad rhwng trefn genedigaeth a myopia yn achos cyffredin sydd wedi bodoli ers degawdau. Roedd y cysylltiad yn fwy amlwg cyn y cafodd ei addasu ar gyfer yr addysg a roddir i blant, gan awgrymu y gallai llai o fuddsoddiad yn addysg y plant a enir yn hwyrach fod yn rhannol gyfrifol."
Mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi yng nghyfnodolyn JAMA Ophthalmology.