Apêl codi arian ar gyfer canolfan gymunedol gwerth £1.6m
18 Mawrth 2019
Mae cymuned Caerdydd yn apelio am gefnogaeth i wireddu ei breuddwyd o greu canolfan gymunedol newydd gwerth £1.6m i breswylwyr.
Mae llawer o’r arian wedi’i gadarnhau i adeiladu cyfleuster newydd cyffrous ar safle hen bafiliwn bowlio yn Grangetown.
Ond mae angen £250,000 ar o trefnwyr o hyd i gyrraedd y targed ac maent yn apelio’n daer am roddion.
Bydd Pafiliwn Grange ar ei newydd wedd yn cynnwys tri man y gellir eu llogi (gan gynnwys neuadd fawr), ystafelloedd cyfarfod, caffi a swyddfa. Bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, hybu iechyd a datblygu mentrau.
Dywedodd Steve Austins, cadeirydd Pafiliwn Grange, y corff cymunedol sy’n llywio’r cynlluniau: “Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i chael hyd yn hyn wedi bod yn sylweddol, gan gynnwys gan y gymuned leol. Ond mae angen hwb ychwanegol arnom i wireddu’r cynlluniau gwych hyn i gael canolfan priodol ar gyfer pobl Grangetown.”
Mae’r cynlluniau hyn yn ganlyniad partneriaeth lwyddiannus rhwng grŵp preswylwyr Prosiect Pafiliwn y Grange a Gweithredu Cymunedol Grangetown, a phrosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Mhairi McVicar, arweinydd prosiect y Porth Cymunedol: “Rydym wedi cyflawni 80% o’n nod o ran cyllid ond mae angen yr hwb mawr olaf arnom i gyrraedd ein targed.
“Rydyn ni’n agos iawn i allu cyrraedd ein huchelgais o greu cyfleuster o ansawdd ddinesig barhaol yng nghanol cymuned wych, ond mae angen mwy o help arnom i lwyddo.”
Y bwriad yw i'r cyfleuster newydd agor ar ddechrau 2020 os gellir cadarnhau’r cyllid sydd ei angen.
Mae’r gwaith ailddatblygu i ddyblu’r maint presennol yn cynnig cyfleusterau cyhoeddus gwerthfawr mewn parc poblogaidd o fewn dinas.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r gymuned wedi gweithio law yn llaw â Phrifysgol Caerdydd i gynnig ystod eang o weithgareddau yn yr hen bafiliwn.
Mae’r gwaith wedi dod â 3,000 o drigolion at ei gilydd, gan lansio 150 o fentrau wedi’u harwain gan y gymuned, gyda dros 1,000 o weithgareddau a sesiynau ar y safle.
Mae'r prosiectau wedi cynnwys fforwm ieuenctid, caffi trwsio, clwb garddio, gweithgareddau chwaraeon, clwb gwaith cartref, sesiynau darllen, cyfarfodydd ffrindiau a chymdogion, grŵp cefnogi iechyd meddwl cyfoedion, caffi technoleg greadigol a chefnogaeth i ddysgwyr sy’n oedolion.
Fodd bynnag, mae angen dirfawr am adeilad newydd gan fod yr hen un mewn cyflwr mor wael ac yn rhy fach i gynnal gweithgareddau â grwpiau mawr.
“Bydd trigolion yn gallu cynllunio a chynnal gweithgareddau cymunedol am ddim, creu refeniw drwy logi preifat er budd y gymuned ehangach, mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a gwella lles, yn ogystal â chynnig ased cymunedol hunangynhaliol, dan arweiniad y gymuned er budd y gymuned”, ychwanegodd Mr Austins.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid a godwyd hyd yn hyn wedi dod gan y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n rhoi £1m tuag at y prosiect.
Ymhlith y cefnogwyr eraill mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Moondance, Sefydliad ASDA, HEFCW, IKEA a Chlwb Rotari Bae Caerdydd.
Mae Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO) Pafiliwn y Grange ei hun wedi codi £2,000 mewn tri mis trwy drefnu cwisiau codi arian, cynnal digwyddiadau a chyngerdd arbennig wedi’i drefnu gan Gôr Cymunedol Grangetown. Cafwyd swm cyfatebol gan Sefydliad Banc Lloyds. At hynny, lansiodd Sefydliad Elusennol Corfforedig Pafiliwn y Grange dudalen Local Giving er mwyn i bobl gyfrannu.
I gyflwyno rhodd trwy’r dudalen codi arian ar-lein, ewch i https://localgiving.org/charity/grange-pavilion/
Mae Run Grangetown yn lansio ymgyrch codi arian a elwir yn Ras i’r Pafiliwn, gyda’r nod o redeg milltir bob dydd nawr hyd at lansiad yr adeilad newydd, gan godi £1 ar gyfer pob milltir maent yn ei rhedeg: https://localgiving.org/fundraising/racetothepavilion/
Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi at yr achos wneud hynny drwy gysylltu â Lynne Thomas ar 029 2087 0456.