Cystadleuaeth 'Game of Codes' am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd
8 Mawrth 2019
Daeth pump ar hugain o dimau yn cynnwys plant ysgol ledled Cymru i Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon i ddangos eu doniau wrth ysgrifennu cod cyfrifiadurol mewn cystadleuaeth genedlaethol a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd.
Darpar ysgrifenwyr cod cyfrifiadurol yn ymgynnull ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth datblygu meddalwedd
Daeth pump ar hugain o dimau yn cynnwys plant ysgol ledled Cymru i Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon i ddangos eu doniau wrth ysgrifennu cod cyfrifiadurol mewn cystadleuaeth genedlaethol a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd.
Roedd rownd derfynol y gystadleuaeth 'Game of Codes', a gynhaliwyd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol, yn profi gallu'r myfyrwyr i weithio mewn tîm i ddylunio a chreu rhaglenni meddalwedd creadigol ac arloesol yn canolbwyntio ar thema 'Dinasoedd Clyfar'.
Anogwyd y myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a gallai eu creadigaethau fod ar ffurf unrhyw beth o gemau a gwefannau i apiau, cwisiau ac animeiddio. Roedd y beirniaid yn edrych ar wreiddioldeb eu creadigaethau a pha mor effeithiol oedden nhw'n targedu eu cynulleidfa. Roedd y beirniaid yn cynnwys academyddion o'r Brifysgol ynghyd â beirniaid gwadd o RedHat, Sefydliad Alacrity a'r Sefydliad Codio.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Technocamps – rhaglen allgymorth sy'n cynnwys llu o brifysgolion yng Nghymru sy'n darparu gweithdai i ysgolion ar Gyfrifiadureg a phynciau Llythrennedd Digidol, gan gynnwys datblygu gemau, rhaglennu, datblygu apiau a roboteg.
Nod y digwyddiad yw helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gweithio mewn tîm, gan eu hysbysu am yr amrywiaeth o bosibiliadau y gall gyrfa mewn cyfrifiadureg a STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) eu cynnig.
Dywedodd Dr Catherine Teehan, Swyddog Lleoliadau'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg:
"Rydym yn falch iawn o groesawu'r ysgrifenwyr cod hynod dalentog hyn i'r Brifysgol heddiw, i brofi eu sgiliau peirianneg meddalwedd fel rhan o'r gystadleuaeth genedlaethol hon. Edrychwn ymlaen at weld creadigaethau meddalwedd arloesol y myfyrwyr, a gobeithiwn y byddant yn cael profiad gwerth chweil yn sgil y gweithgareddau yr ydym wedi eu trefnu ar eu cyfer.
"Mae peirianneg meddalwedd wir yn faes gwaith cyffrous, sy'n prysur dyfu. Mae'n cynnig cyfleoedd di-rif i weithio ar amrywiaeth o brosiectau mewn amrywiaeth o sectorau. Drwy gynnal digwyddiadau fel cystadleuaeth 'Game of Codes', rydym yn gobeithio gallu ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ystyried astudio a gweithio yn y maes hwn."
Wrth i dechnoleg barhau i ddatblygu'n gyflym, mae'r rhagolygon swyddi mewn cyfrifiadureg yn datblygu yn yr un modd. Mae galw mawr am beirianwyr meddalwedd cymwys yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod angen 3,100 o weithwyr TG proffesiynol newydd bob blwyddyn yng Nghymru, i ateb y galw presennol gan ddiwydiant.