Cymru mewn Byd ar ôl Brexit
13 Mawrth 2019
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi enwau’r siaradwyr ar gyfer ei digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a gynhelir gyda’r hwyr ar 27 Mawrth.
Caiff ‘Cymru mewn Byd ar ôl Brexit’ ei agor gan Susie-Ventris Field, Prif Weithredwr y Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Bydd panel o academyddion yn amlinellu sut mae gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n rhan o wladwriaeth fwy yn cynnal cysylltiadau rhyngwladol. Caiff y panel ei gadeirio gan Susie Ventris-Field. Ar y panel, bydd Dr Christopher Huggins o Brifysgol Suffolk, Dr Rachel Minto a’r Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd, a Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth.
Yn dilyn hyn, bydd Syr Emyr Jones Parry, sef cyn-Gynrychiolwr Parhaus y DG i’r Cenhedloedd Unedig, yn rhoi ei farn ar opsiwnau Cymru yn y dyfodol.
Bydd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, yn cloi’r digwyddiad ar ôl y siaradwyr arall.
Cynhelir y digwyddiad yn Nheml Heddwch Caerdydd, a bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar opsiynau Cymru o ran polisi rhyngwladol ar ôl Brexit. Bydd y siaradwyr yn ystyried sut mae gwledydd ac endidau eraill sy’n rhan o wladwriaeth fwy yn cynnal cysylltiadau rhyngwladol a sut dylid canolbwyntio ymdrechion diplomyddol Cymru mewn cyd-destun ôl-Brexit.
Dros y misoedd diwethaf, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi hwyluso cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus sy’n dadansoddi prosesau ynghylch Brexit. Mae’r Ganolfan yn dal i ysgogi trafodaethau cyhoeddus ynghylch goblygiadau Brexit i Gymru.
Ceir mwy o wybodaeth yma.