Effaith amodau llif dŵr ar drosglwyddo parasitiaid ymysg organebau dŵr croyw
13 Mawrth 2019
Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn astudio effaith gwahanol fathau o gyflyrau llif dŵr ar drosglwyddo parasitiaid mewn organebau dŵr croyw.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil hwn gan grŵp rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys yr Athro Jo Cable o Ysgol y Biowyddorau, Dr Catherine Wilson o'r Ysgol Peirianneg, ill dwy yn aelodau cyswllt o’r Sefydliad Ymchwil Dŵr, a Dr Mike Reynolds a Dr Fran Hockley sy’n gynfyfyrwyr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd.
Eglurodd yr Athro Jo Cable: "Mewn llif sydd wedi'i darfu, mae pysgod yn wynebu dwy her.
"O dan amodau llif parhaus, mae pysgod yn tueddu i ddod ynghyd mewn grwpiau (heigiau) i leihau'r egni a ddefnyddir wrth nofio. Mae hyn yn cynyddu'r perygl o glefyd. Mewn amodau di-lif, mae pysgod yn tueddu i orffwys ar swbstrad yn y nos. Fodd bynnag, pan maent yn cael eu heintio, mae pysgod yn fwy aflonydd ac yn symud ymhlith pysgod eraill gan gynyddu'r perygl o glefyd.
"Felly, roedd mwy o barasitiaid yn cael eu trosglwyddo ymysg y pysgod lle roedd y llif wedi'i darfu gan eu bod yn wynebu amodau lle ceir llif parhaus a dim llif."
Cewch ragor o wybodaeth am yr astudiaeth hon yn y cyhoeddiad llawn yn Hydrobiologia.