Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn arwain at ganfyddiadau newydd am y Mary Rose
14 Mawrth 2019
Mae archeolegydd o Brifysgol Caerdydd wedi taflu goleuni newydd ar wreiddiau'r criw ar fwrdd y Mary Rose, y brif long yn Llynges Harri VIII.
Mae canfyddiadau gwyddonol Jessica Scorrer, myfyriwr MSc, a Dr Richard Madgwick, sy'n Uwch-ddarlithydd Gwyddoniaeth Archaeolegol, yn awgrymu y gallai aelodau o griw'r llong ryfel Duduraidd, a suddodd ym 1545, fod wedi hanu o rywle mor bell â de Ewrop, neu hyd yn oed Affrica.
Bu prifysgolion Abertawe a Portsmouth hefyd ynghlwm wrth yr ymchwil hon, sy'n sail i arddangosfa newydd yn Amgueddfa Mary Rose. Mae The Many Faces of Tudor England ar agor ddydd Llun 18 Mawrth tan 31 Rhagfyr, ac yn cael ei gynnal ar y cyd â'r rhaglen ddogfen newydd, Skeletons of the Mary Rose: The New Evidence, sy'n rhan o gyfres arobryn Secret Histories. Bydd yn cael ei darlledu am 8:00 nos Sul ar Channel 4, ac yn para awr.
Gan ddefnyddio proses o'r enw dadansoddi isotopau, llwyddodd yr ymchwilwyr i ddod o hyd i signalau cemegol wedi'u cloi yn nannedd y criw, sy'n rhoi tystiolaeth o wahanol agweddau o'u bywydau cynnar. At hynny, bu'r myfyriwr PhD Katie Faillace yn cynnal dadansoddiad esgyrnegol ar weddillion dethol, gan gadarnhau achau Affricanaidd un o'r criw a elwir yn 'Henry'.
'Henry' yw'r un mwyaf cyflawn o blith y 92 o sgerbydau'r criw sydd wedi'u hail-greu, a ganfuwyd pan godwyd y Mary Rose ym 1982. Mae'r ymchwil ddiweddaraf yn datgelu ei fod rhwng 14 a 18 oed. Mae dadansoddiad isotop ocsigen o'i ddannedd yn awgrymu y cafodd ei fagu ym Mhrydain, yn y gorllewin neu'r de, tra bod ei werth sylffwr yn awgrymu iddo gael ei eni 50km o'r arfordir. Mae canlyniadau pellach yn awgrymu iddo gael ei fagu mewn ardal ddaearegol Paleosöig, fel yr un yng ngogledd Dyfnaint.
Cafodd un o ddannedd Henry ei dynnu hefyd er mwyn i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Portsmouth gynnal dadansoddiad DNA arno. Mae DNA mitocondriaidd, sy'n cael ei drosglwyddo bron yn gyfan gwbl o'r fam i'r plentyn drwy gelloedd yr ŵy, yn datgelu mai Saesnes oedd ei fam ond mae ei DNA niwclear, o'r ddau riant, yn awgrymu bod ei dad yn hanu o ogledd Affrica. Mae hynny'n golygu bod 'Henry'n enetig debyg i Forociaid y byd presennol, Berberiaid Mozabite Algeria neu unigolion o'r Dwyrain Agos.
Canfyddiad arall yw'r Saethwr Brenhinol, a ganfuwyd wedi'i ddal o dan echel gefn canon efydd ar y prif ddec, â'i fwa hir wrth ei ymyl. Gan fod lluoedd y Saeson yn enwog am eu sgiliau bwa hir, rhagdybiwyd erioed mae Sais oedd y saethwr hwn.
Fodd bynnag, rhoddodd dadansoddiad isotop o'i ddannedd werth ocsigen lawer yn uwch na'r norm Prydeinig – un o'r gwerthoedd uchaf erioed i'w ganfod ym Mhrydain – gan awgrymu na chafodd ei eni ym Mhrydain, ond iddo gael ei fagu mewn hinsawdd boethach. Y gred erbyn hyn yw y gallai'r Saethydd Brenhinol hwn fod wedi dod o ogledd Affrica mewndirol, dros 50km o'r arfordir.
Roedd y Mary Rose yn llong ryfel a gomisiynwyd gan Harri VIII ym 1509. Pum gwraig a hanner yn hwyrach, ym 1545, suddodd y tu allan i harbwr Portsmouth. Cafodd ei chodi'n ddramatig ym 1982, ac erbyn hyn gallwch weld y Mary Rose a miloedd o wrthrychau Tuduraidd go iawn o fywydau pob dydd, yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa yn Portsmouth.
Yn ôl Dr Alexzandra Hildred, Pennaeth Ymchwil a Churadur Ordnans a Gweddillion Dynol yn y Mary Rose: "Ar sail tystiolaeth wyddonol newydd a gafwyd o ddadansoddiad isotop yn ogystal â chynnal prawf DNA ar ddannedd ac esgyrn, mae'r arddangosfa hon yn eich tywys ar daith ganfod, gan archwilio cefndiroedd nifer o'r criw. Yn ogystal, mae'n ystyried beth all yr hyn a ganfuwyd ar y Mary Rose ei ddweud wrthym am amrywiaeth a globaleiddio yn Lloegr yn Oes y Tuduriaid, 500 mlynedd yn ôl.
Paratowyd y samplau isotop yn Labordy Bioarcheoleg Prifysgol Caerdydd ac fe'u dadansoddwyd yng Nghyfleuster Isotop Sefydlog Prifysgol Caerdydd, Labordy EARTH Caerdydd ar gyfer elfennau olrhain a'r Cyfleuster Cemeg Isotopau (CELTIC), a Labordy Geowyddorau Isotopau NERC.
Bu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Jessica Scorrer a Katie Faillace, yn cynorthwyo’r prosiect hefyd.