Professor David Wyn Jones appointed to research panel in Vienna
13 Mawrth 2019
Penodwyd yr Athro David Wyn Jones i gynghori ar brosiect newydd, Cyngherddau yn Fienna 1780-1830: Perfformiadau, Lleoliadau a Repertoires. (Concert Life in Vienna 1780-1830: Performances, Venues and Repertoires.)
Nod yw prosiect hwn a gynhelir yn y Sefydliad Cerddoleg ym Mhrifysgol Fienna, adran gerddoleg hynaf y byd, yw cynnig cronfa ddata gyhoeddus, chwiliadwy o fywyd cyngherddau preifat a chyhoeddus yn y ddinas, gan gynnwys perfformiadau wedi’u ail-greu.
Penodwyd yr Athro Jones yn un o saith aelod ar y Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol fydd yn goruchwylio'r prosiect, rhoi cyngor ac adolygu prosiectau. Ef yw'r unig aelod panel a ddewiswyd nad yw’n dod o’r Awstria a'r Almaen.
Mae llawer o ymchwil yr Athro Jones wedi ymrwymo i astudio cerddoriaeth a bywyd cerddorol yn Vienna yn y cyfnod hwn, gan gynnwys bywgraffiadau Haydn a Beethoven, a monograff arbenigol ar hanes y symffoni yn y ddinas, The Symphony in Beethoven’s Vienna (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2006). Mae llyfr mwy diweddar yn cymryd persbectif ehangach: Music in Vienna, 1700, 1800, 1900 (Boydell Press, 2016).