Academydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei anrhydeddu am fentora rhagorol
13 Mawrth 2019
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Genedlaethol Mentor Prifysgol y Flwyddyn.
Aeth yr Athro Roger Awan-Scully, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Brifysgol, i gasglu ei wobr yn y Gwobrau Mentora Cenedlaethol yn Llundain.
Dywedodd y beirniaid fod y wobr yn cydnabod ei “flynyddoedd o waith ymroddedig a rhagorol gyda myfyrwyr o bob lefel, yn ogystal â gyda chydweithwyr academaidd iau.”
Dywedodd yr Athro Awan-Scully: “Braint o'r mwyaf oedd cael Gwobr Genedlaethol Mentor Prifysgol y Flwyddyn. Braint hefyd oedd mynd i’r seremoni wobrwyo, a chlywed am waith ysbrydoledig cymaint o fentoriaid anhygoel sy’n gweithio gyda phobl o bob cefndir. Roedd yn wych bod yn rhan fach o ddigwyddiad mor rhyfeddol.”
Roedd dros 300 o fentoriaid gorau'r DU o bob sector o fusnes a chymdeithas yn bresennol yn y seremoni wobrwyo, sy’n ddathliad cenedlaethol i anrhydeddu rhagoriaeth mentora.
Yr Athro Awan-Scully yw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y DU ym maes datganoli, barn y cyhoedd, a gwleidyddiaeth bleidiol. Mae ei ddadansoddiad o arolygon Baromedr Gwleidyddol Cymru, a gynhelir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad ag ITV Cymru-Wales ac YouGov, wedi llywio dadleuon gwleidyddol a helpu i gynnig modd o ddeall barn y cyhoedd yng Nghymru. Mae hefyd wedi arwain y ddwy Astudiaeth Etholiadol Cymru ddiwethaf, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU.
Dywedodd Dr Einion Dafydd, cyn-gydweithiwr: “Mae’r wobr hon yn gwbl haeddiannol. Roedd Roger yn fentor arna i yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig, drwy fy mlynyddoedd PhD, hyd at fy amser fel darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd bob amser yn gefnogol ac yn ystyriol. Rydyn ni’n dal i fod yn ffrindiau nawr fy mod i’n gweithio i Lywodraeth Cymru.
“Bydd degau o fyfyrwyr presennol, cynfyfyrwyr a chydweithwyr yn dra diolchgar i Roger am ei gefnogaeth - ac mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth arbennig o’i ymrwymiad hirdymor i fentora’r rhai sydd yn ei ofal.”