Rhaglen Partneriaethau Addysg Uwch yn Affrica Is-Sahara
13 Mawrth 2019
Mae'r Athro Tom Blenkinsop wedi ymweld â Phrifysgol Wladol y Canolbarth (Midlands State University) yn Zimbabwe fel rhan o raglen Partneriaethau Addysg Uwch yr Academi Beirianneg Frenhinolyn Affrica Is-Sahara.
Mae'r rhaglen Partneriaethau Addysg Uwch yn Affrica Is-Sahara yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes peirianneg, bwrsariaethau astudio academyddion a myfyrwyr, cyllid i fusnesau newydd, prosiectau ymchwil, partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth, ymgysylltu cyhoeddus a gwobrau sy'n cydnabod campau sylweddol ym maes peirianneg.
Mae'r Athro Blenkinsop a Dr Iain McDonald o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Dr Antony Mamuse o Brifysgol Wladol y Canolbarth ar brosiect ymchwil sy'n mynd i’r afael â’r posibilrwydd o fwynau diwydiannol a gemau yn Zimbabwe.
Ymwelodd yr Athro Blenkinsop â Zimbabwe ddiwedd mis Chwefror 2019, lle bu'n addysgu cwrs ar ddaeareg adeileddol i grŵp o 45 o ddaearegwyr o'r diwydiant archwilio a mwyngloddio yn rhan o'r grant a rhaglen yr Academi Frenhinol. Aethant ar daith maes i ardal Hurungwe yng ngogledd-orllewin Zimbabwe, sy'n cynnwys dyddodion nodedig o graffit, mica, tourmaline a chorundum.
“Roedd y rhaglen yn agoriad llygad i ni fel myfyrwyr gan i ni weld yr heriau a wynebir wrth echdynnu mwynau prin a sut dylem gynnig atebion peirianneg effeithiol ac effeithlon,” meddai Brighton Pamire, myfyriwr Peirianneg Fetelegol ym Mhrifysgol Wladol y Canolbarth.
Yn ystod ei ymweliad, aeth yr Athro Blenkinsop hefyd i weithdy cychwynnol a gynhaliwyd gan Is-Ganghellor y brifysgol. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ymweliad cyfatebol gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Wladol y Canolbarth â Chaerdydd ym mis Awst 2019.