Clwstwr, y menter diwydiannau creadigol newydd, yn agor
12 Mawrth 2019
Mae rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd sy’n sbarduno arloesedd yn y diwydiannau sgrîn bellach ar waith.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Clwstwr yn rhaglen ymchwil a datblygu uchelgeisiol dros bum mlynedd sydd â'r nod o greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i hybu'r sector yn Ne Cymru.
Mae’r tîm llawn sy'n cyflwyno Clwstwr bellach yn ei gartref newydd yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys pedwar cynhyrchydd a fydd yn sefydlu, trefnu ac yn goruchwylio ystod o raglenni Ymchwil a Datblygu.
Yn fuan, bydd rhan o'r Rhaglen Clystyrau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), y rhai sy'n gweithio yn y sectorau sgrîn a newyddion yn gallu gwneud cais am arian i ddatblygu syniadau a allai torri tir newydd yn eu sefydliadau eu hunain yn ogystal â'r diwydiant.
Gwahoddir busnesau, mudiadau a gweithwyr llawrydd i gyfres o sesiynau ar draws Rhanbarth Dinas Caerdydd i weld sut y gallant gymryd rhan.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Clwstwr, yr Athro Justin Lewis: "Rydym wrth ein bodd o fod yn ein cartref newydd yn adeilad eiconig Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd. Nawr bod y tîm llawn yn ei le, byddwn yn rhannu ein harbenigedd, ein hymagwedd at Ymchwil a Datblygu, a sut i wneud cais am gyllid gyda'r sector.
"Mae Caerdydd bellach yn un o ganolfannau cynhyrchu cyfryngau mwyaf y DU y tu allan i Lundain. Ond os ydym am ffynnu mewn diwydiant sydd dan ddylanwad arweinwyr byd-eang yn y maes, mae angen inni ganfod ffyrdd o feithrin cydweithio. Mae’r tîm Clwstwr yn edrych ymlaen yn fawr at roi arloesedd ar waith yn y ddinas, fel y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r heriau allweddol hyn."
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Clwstwr yn dangos hyder yn y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd. Mae'n wych eich gweld wedi eich lleoli yn yr adeilad arbennig hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dod yn ganolbwynt arloesedd creadigol yn y ddinas."
Mae Ann Beynon OBE, Cyn-gyfarwyddwr BT Cymru, wedi'i hethol yn Gadeirydd y Clwstwr. Ar hyn o bryd mae Ann yn Gyfarwyddwr Anweithredol Hafren Dyfrdwy ac is-gwmni sy'n eiddo i Severn Trent Water ccc. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol FUWIS (Gwasanaethau Yswiriant Undeb Amaethwyr Cymru) ac yn aelod o’r Cyngor CBI i Gymru a hi yw ei gynrychiolydd ar Gyngor Busnes De-ddwyrain Cymru.
Mae Sally Griffith, cyn Gyfarwyddwr Anim18:A Celebration of British Animation, yn ymuno â'r tîm yn Gynhyrchydd y Clwstwr. Dywedodd: “Mae'n gyffrous bod yn rhan o’r Clwstwr. Yn ystod fy mis cyntaf, rydw i wedi cwrdd â phobl o bob rhan o'r sector creadigol yng Nghaerdydd. Mae'n ysbrydoledig i fod yn gweithio o fewn ecosystem fywiog ac amrywiol sy'n llawn potensial a syniadau, ac i fedru cynnig yr amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen i helpu i ddatblygu rhai o'r syniadau hynny.
"Rydw i wrth fy modd bod y Clwstwr yn dod ag arbenigwyr o bob rhan o sbectrwm ffilm, teledu, newyddion ac ymchwil ynghyd, yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth gwych. Mae bod yn rhan o deulu mawr yn rhaglen Clystyrau Creadigol AHRC yn foment unigryw i sector sgrîn Cymru rannu ein harbenigedd a dysgu oddi wrth bartneriaid ledled y DU."
Mae’r Clwstwr yn dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru ynghyd â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r llywodraeth at ei gilydd.
Gall busnesau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r Clwstwr fynd i gyfres o ddigwyddiadau ar draws Rhanbarth Dinas Caerdydd ar 19, 20 a 21 Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.clwstwr.org.uk/cy/newyddion-digwyddiadau.