Harneisio gwyddoniaeth gofod er mwyn monitro cyflwr bwyd
8 Mawrth 2019
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn datblygu technoleg newydd fydd yn gallu ‘arogli’ pan mae ffrwythau a llysiau’n dechrau pydru. Gallai hyn arbed tunelli o wastraff.
Yn ôl corff ymgynghorol y DU ynghylch gwastraff, WRAP, mae 1,200,000 o dunelli o ffrwythau a llysiau’n cael eu gwastraffu’n ddiangen bob blwyddyn.
Ond, mae tîm ymchwil o’r DU yn gobeithio datblygu system asesu gyflym a chost effeithiol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, drwy ddefnyddio techneg a ddefnyddir yn aml mewn gwyddoniaeth gofod. Yn ogystal â helpu i leihau gwastraff, byddai hyn yn gadael i gyflenwyr bwyd ganfod pryd yn union mae cyflwr y bwyd ar ei anterth, ac o ganlyniad, pryd mae gwerth maethol y bwyd yn fwyaf i gwsmeriaid.
Mae’r tîm eisoes wedi pennu’r set unigryw o farcwyr moleciwlaidd y mae dail roced yn eu rhyddhau cyn iddynt ddechrau pydru, ond, roedd y tîm am weld a allent ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer mathau eraill o gynnyrch.
Ymhlith aelodau’r tîm y mae Dr Hilary Rogers a Dr Carsten Müller o Brifysgol Caerdydd, Dr Geraint Morgan o’r Brifysgol Agored a Dr Simon Sheridan o Applied Science & Technology Solutions Cyf.
Er bod y tîm eisoes wedi llwyddo i allu canfod pryd mae dail roced ar fin dechrau pydru, mae nifer o broblemau logistaidd i’w goresgyn cyn iddynt allu creu dyfais addas ar gyfer y diwydiant.
Defnyddiodd y gwaith cychwynnol yng Nghaerdydd dechneg labordy gostus, sef Cromatograffaeth Nwy - Sbectrometreg Màs (GC-MS) ar gyfer yr ymchwil hon - sy’n ffordd o wahanu cyfansoddion cemegol gwahanol a’u hadnabod. Mae’r dechnoleg hon wedi cael ei defnyddio ar gyfer nifer o wahanol bwrpasau, o wyddoniaeth hinsawdd i wyddoniaeth planedau.
Fodd bynnag, i fod o fudd at ddibenion cyflenwi neu adwerthu, mae angen i’r ddyfais fod yn fach, yn gludadwy, ac yn rhad i’w gynhyrchu. Ychwanegodd Dr Rogers: “Ein her fwyaf bellach yw trosi’r dechnoleg gymhleth hon yn llwyfan gost effeithiol fel y gellir ei defnyddio ar wahanol gamau yn y gadwyn gyflenwi, o gynhyrchu i adwerthu.”
Food Network+ STFC ariannodd y prosiect ymchwil, sy’n dod ag ymchwilwyr o STFC a gwahanol ddisgyblaethau yn y sector bwyd-amaeth ynghyd. Eu nod yw datrys un o heriau mwyaf yr byd o ran cynaliadwyedd bwyd.
Yn flaenorol, mae Dr Morgan a Dr Sheridan wedi datblygu fersiwn ar GC-MS sydd yr un maint â blwch esgidiau ar gyfer STFC, ac ar gyfer fforio planedau. Dyma fu’r teclyn Ptolemy ar genhadaeth Rosetta. Ond nawr, mae’r tîm yn gobeithio trosi’r gwersi a ddysgwyd yn llwyfan gludadwy a fforddiadwy.
“Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos ei bod hi’n bosibl, heb os,” meddai Dr Morgan. “Rydym wedi canfod ateb amgen ar gyfer synhwyrydd sydd gryn dipyn yn rhatach. Gall y synhwyrydd hwn feintioli cyfansoddion y marcwyr yn gywir, hyd yn oed ar lefelau is na sbectromedr màs. Mae hyn yn hwyluso proses o samplo a dadansoddi’n gyflym ac yn syml y gallai unrhyw un ei defnyddio ar unrhyw gam o’r gadwyn gyflenwi. Rydym wedi datblygu a gwerthuso prototeip effeithiol a bellach, mae angen cyllid arnom i ddylunio’r cynnyrch a datblygu teclyn y gellir ei werthu i amryw randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi. Drwy ganfod y marcwyr pwysig, bydd y dechnoleg hon yn llwyfan addas ar gyfer amrywiaeth o gynnyrch amaeth.”
Ceir mwy o wybodaeth am y rhwydwaith a’r prosiectau eraill a ariennir yma.