Seremoni Wobrwyo’r Cynllun Sabothol
5 Hydref 2015
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol ar Nos Iau 1 Hydref 2015 gyda’r ddarlledwraig Nia Parry yn arwain y noson. Roedd y noson yn gyfle i ddathlu llwyddiant yr ymarferwyr a chyflwyno tystysgrifau i’r sawl a gwblhaodd ein cyrsiau yn 2014-15.
Mae’r Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg yn cynnig cyrsiau iaith i athrawon cynradd ac uwchradd, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr. Nod y cyrsiau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cynyddu'r cyflenwad o ymarferwyr sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog ynghyd â chynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus arbenigol ym maes addysg.
Dywedodd Lowri Davies, Rheolwr y Cynllun yng Nghaerdydd “Roedd hi’n hyfryd cael cyfle i ddod ynghyd i ddathlu’r hyn y mae’r ymarferwyr wedi’i gyflawni a’u clywed yn defnyddio’r Gymraeg yn hyderus gyda’i gilydd.”
Roedd y noson hefyd yn gyfle inni ddathlu llwyddiant un o’n cyn-ymarferwyr, Stuart Blackmore, sydd wedi cyhoeddi llyfr o’r enw Gardd Mewn Tref. Mae’r llyfr yn cyfrannu at gofnodi termau Cymraeg ym maes garddio ac rydym yn falch iawn fod Stuart yn diolch i’r Cynllun Sabothol am roi’r hyder iddo ysgrifennu yn y Gymraeg.
Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnig ar sawl lefel ieithyddol mewn sawl lleoliad ar draws Cymru. Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyrsiau sabothol ar lefel Sylfaen, Mynediad ac Uwch. Mae'r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae Llywodraeth Cymru yn talu costau cyflenwi yn ogystal â chostau teithio.
Am ragor o fanylion am y Cynllun Sabothol, cysylltwch â Cadi Thomas.