Gwaith celf Atlas Llenyddol yn mynd ar daith
4 Mawrth 2019
Mae sioe deithiol drwy Gymru gyfan sy'n arddangos gwaith celf newydd a gomisiynwyd i gefnogi'r Atlas Llenyddol rhyngweithiol ar-lein wedi dechrau.
Bydd yr arddangosfa am Rithganfyddiadau Cartograffig yn ymweld â chwe lleoliad ledled Cymru yn ystod y 12 mis nesaf, ac yn gorffen gyda digwyddiad chwe wythnos yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng Ionawr a Chwefror 2020.
Mae Atlas Llenyddol, menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru(WISERD), yn plotio lleoliadau o gwmpas Cymru y mae nofelau Saesneg yn sôn amdanynt.
I gefnogi'r prosiect, comisiynwyd 12 artist i greu gwaith celf gwreiddiol i adlewyrchu pob llyfr:
- John Abell - Revenant gan Tristan Hughes (2008)
- Iwan Bala - Twenty Thousand Saints gan Fflur Dafydd (2008)
- Valerie Coffin Price - The Rebecca Rioter gan Amy Dillwyn (1880)
- Liz Lake - Shifts gan Christopher Meredith (1988)
- Richard Monahan - Aberystwyth Mon Amour gan Malcom Pryce (2009)
- George Sfougaras - The Hiding Place gan Trezza Azzopardi (2000)
- Joni Smith - Mr Vogel gan Lloyd Jones (2004)
- Amy Sterly - Pigeon gan Alys Conran (2016)
- Locus - Sheepshagger gan Niall Griffiths (2002)
- Rhian Thomas - Border Country gan Raymond Williams (1960)
- Seán Vicary - The Owl Service gan Alan Garner (1967)
- Cardiff University Student Project – Strike for a Kingdom gan Menna Gallie (1959)
Oriel Davies yn y Drenewydd yw'r lleoliad cyntaf i gynnal yr arddangosfa deithiol (9 Chwefror - 18 Mawrth), ac yna Pontio, Bangor (7 Mawrth - dyddiad gorffen i'w gadarnhau), Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth (23 Mawrth - 8 Mehefin), Amgueddfa Abertawe (6 Gorffennaf - 8 Medi) a Galeri Caernarfon (13 Medi - 25 Hydref).
Meddai’r Athro Jon Anderson, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y prosiect: "Mae nifer fawr o ymwelwyr wedi defnyddio'r wefan ac archwilio'r map rhyngweithiol ar gyfer pob un o'r 12 nofel ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng daearyddiaeth a llenyddiaeth."
Porwch drwy'r yr Atlas Lenyddol Rhyngweithiol, a gweld y gwaith celf dan sylw.