Butterflies Remember a Mountain gan Dr Arlene Sierra
6 Mawrth 2019
Mae Butterflies Remember a Mountain - Arlene Sierra, Cyfrol 3 wedi’i ryddhau’n rhyngwladol.
Y disg, a gyhoeddwyd gan Bridge Records, yw’r trydydd mewn cyfres o recordiadau portread sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth gan Dr Arlene Sierra. Mae’n cyflwyno cerddoriaeth siambr a gyfansoddwyd dros gyfnod o 16 mlynedd ar gyfer ensembles sy’n cynnwys triawd piano, deuawdau piano, sielo a phiano, a ffidl a sielo.
Mae adolygiadau diweddar wedi dathlu’r cyhoeddiad. Mae Classical Ear wedi’i ddisgrifio’n ‘ddisg sy’n haeddu sawl gwrandawiad ac yn gwobrwyo pob un,’ ac mae Records International wedi’i ddatgan yn ‘berfformiad llawn asbri parod a huawdl’. Mae adolygiad gan American Record Guide yn ei ddisgrifio’n ‘arbennig o liwgar a theimladwy,’ ac mae Gramophone yn ei ddisgrifio’n ‘gerddoriaeth siambr fendigedig sy’n swyno o’r bar cyntaf i’r un olaf.’
Comisiynwyd y cyfansoddiad teitl yn 2013 gan Gymdeithas Ffilharmonig Bremen, ar gyfer triawd gyda’r ffidlwr, Nicola Benedetti, pianydd Alexei Grynyuk, a’r sielydd Leonard Elschenbroich. Ar ben recordio’r gwaith ar gyfer y disg newydd, maent wedi’i berfformio’n helaeth wrth deithio, mewn lleoliadau sy’n cynnwys Frankfurt Alte Oper, Neuadd Tref Cheltenham, Amsterdam Concertgebouw, a’r BBC Proms yn Neuadd Cadogan, Llundain.
Ochr yn ochr â’i rolau fel Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth a Darllenydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth, mae Dr Sierra yn gyfansoddwr o fri rhyngwladol. Mae ei cherddoriaeth yn cael ei pherfformio gan ensembles a cherddorfeydd mawr, gan gynnwys Ffilharmonig Efrog Newydd, Ffilharmonig y BBC, Symffoni Seattle a Ffilharmonig Tokyo. Mae BBC Music Magazine wedi ei galw'n ‘enw i’w gofio’ ac mae hi bellach yn gweithio ar gyfres o sgorau newydd ar gyfer ffilmiau distaw gan Maya Deren, ar gyfer DVD a ryddheir yn 2021.