Llwyddiant yn rhestr o brifysgolion gorau’r byd yn ôl pwnc
5 Mawrth 2019
Mae pedwar o bynciau Prifysgol Caerdydd ymhlith y 50 gorau yn y byd yn ôl rhestr bwysig a dylanwadol.
Ar Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2019, Cyfathrebu ac Astudiaethau Cyfryngau yw'r pwnc ym Mhrifysgol Caerdydd a gyrhaeddodd y safle uchaf (25ain yn y byd). Mae'r Brifysgol hefyd yn y 37ain safle ar gyfer Pensaernïaeth/Amgylchedd Adeiledig, yn y 43ain safle ar gyfer Peirianneg - Mwynau a Mwyngloddio, ac yn yr 50fed safle ar gyfer Deintyddiaeth.
Mae gan y Brifysgol bum pwnc arall sydd ymhlith y 100 uchaf yn y byd: Saesneg Iaith a Llenyddiaeth; Daearyddiaeth; Fferylliaeth a Ffarmacoleg; Seicoleg; a Pholisïau Cymdeithasol a Gweinyddiaeth.
Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc yn cael ei llunio'n flynyddol er mwyn helpu darpar fyfyrwyr i nodi'r prifysgolion mewn pwnc penodol. Defnyddir cyfeiriadau ymchwil, yn ogystal â chanlyniadau o arolygon byd-eang pwysig o gyflogwyr ac academyddion i restru prifysgolion ar draws y byd.
Mae Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn ôl Pwnc 2019 yn cynnwys 48 o ddisgyblaethau i gyd, wedi'u grwpio'n bum maes pwnc eang.
Am y tro cyntaf, mae QS wedi rhoi rhestrau ar gyfer pynciau fesul gwledydd unigol hefyd.
Yn y DU, roedd Prifysgol Caerdydd yn y 10 uchaf mewn pum maes pwnc: Peirianneg - Mwynau a Mwyngloddio (3ydd); Cyfathrebu ac Astudiaethau Cyfryngau (4ydd); Pensaernïaeth/Amgylchedd Adeiledig (5ed); Deintyddiaeth (6ed); a Seicoleg (10fed).
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae'n galonogol dros ben gweld ein pynciau yn perfformio mor dda ar y rhestr bwysig hon.
"Ein nod yw gwneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn cael ei pharchu ledled y byd, ac mae hwn yn dangos yn glir ein bod yn llwyddo i wneud hyn mewn sawl maes.
"Rhaid rhoi clod i waith caled ein staff a'n myfyrwyr am gyflawni'r canlyniadau ardderchog hyn a'n symud yn nes at gyflawni ein gweledigaeth o fod yn brifysgol sydd ar flaen y gad ac sy'n rhagorol o ran ei haddysg a'i hymchwil."