Diwrnod Poster Blynyddol yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas
5 Mawrth 2019
Yn ystod yr wythnos hon, cynhaliwyd Diwrnod Poster blynyddol yr Ysgol Fferylliaeth yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Bob blwyddyn, mae myfyrwyr blwyddyn olaf y rhaglen MPharm yn cwblhau eu prosiectau ymchwil eu hunain. Maent yn dysgu am dechnegau a gweithdrefnau labordy, a dulliau dadansoddi data sy'n cwmpasu ystod eang o feysydd o ymchwil sylfaenol i ymarfer fferyllol. Ar ddiwedd y prosiectau, mae’r myfyrwyr yn arddangos eu canlyniadau drwy gyfres o bosteri mewn lleoliad sydd wedi’i osod yn debyg i gynhadledd.
Eleni, roedd y prosiectau'n cynnwys meysydd Darganfod Cyffuriau, Gwyddorau Fferyllol, Therapiwteg Arbrofol, ac Optimeiddio Meddyginiaethau a Deilliannau Gofal Iechyd. Mae myfyrwyr a staff yn edrych ymlaen yn fawr at y Diwrnod Poster bob blwyddyn. Mae’r digwyddiad yn galluogi myfyrwyr israddedig i ddangos perchenogaeth dros waith ymchwil ac yn rhoi cyfle i staff, myfyrwyr a gwesteion drafod materion ysgolheigaidd ar lefel mwy colegol.
Ymhlith y gwesteion eleni roedd Jamie Hayes, Cyfarwyddwr Canolfan Adnoddau Moddion Cymru, Sarah Hiom o Grŵp Llywio Ymchwil Fferylliaeth Cymru, Andrew Sully, Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Owain Brookes sy'n Fferyllydd Arennau yn Ysbyty Treforys, Kath Haynes a Robert Bracchi o Uned Cymorth Rhagnodi Dadansoddol Cymru, a Ken Wann, Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol Fferylliaeth.
Roedd Ian Hill, Esther Howarth-Papp, ac Alan Meudell hefyd yn bresennol i ddyfarnu gwobr y gyfadran leyg. Sefydlwyd y gyfadran leyg i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth y cyhoedd o'r ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Fferylliaeth yn hygyrch ac yn glir i gynulleidfa ehangach.
Ar ôl asesu’r posteri, dyfarnwyd gwobrau i’r rhai gorau. Eleni, Marianne Collins, Josana Hayes, Alliyah Sajid ac Abbie Shaw oedd yr enillwyr.