Ewch i’r prif gynnwys

Darlith Flynyddol gan Michelle O’Neill – Fideo

11 Rhagfyr 2018

Cyflwynodd Michelle O’Neill MLA, Dirprwy Arweinydd Sinn Féin, Ddarlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2018 yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Roedd y gynulleidfa yn cynnwys arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru, Gwyddelod o Gymru, cynrychiolwyr o sefydliadau’r trydydd sector a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Fe wnaethon nhw fwynhau sesiwn holi ac ateb ddiddorol dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones.

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones AC, wnaeth noddi a chyflwyno’r digwyddiad llwyddiannus iawn, ac fe wnaeth hi groesawu rôl y Ganolfan wrth ddatblygu’r drafodaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Gwyliwch fideo o’r digwyddiad yma.

Rhannu’r stori hon