Ewch i’r prif gynnwys

Hunan-niweidio a chyfraddau trais mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc

13 Tachwedd 2018

An image of the interior of a prison

Ystadegau newydd yn datgelu darlun brawychus yng Nghymru a Lloegr.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu hyd a lled hunan-niweidio a thrais mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc (YOIs) yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ffigurau blaenorol sydd heb eu cyhoeddi, a gasglwyd gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid drwy’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth*, yn cynnig cipolwg unigryw ar brofiadau plant mewn unedau pobl ifanc sy’n darparu ar gyfer plant 15-17 oed yn bennaf.

Mae’r canfyddiadau, a gasglwyd yn rhan o Brosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn datgelu:

  • Roedd nifer uchaf yr achosion o hunan-niweidio yn HMYOI Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr o’i gymharu â phum sefydliad arall yng Nghymru a Lloegr. Cafwyd cyfanswm o 64 o achosion yn 2017. 40 yw poblogaeth uned blant HMYOI Parc ar gyfartaledd.
  • Yn ogystal, uned blant HMYOI Parc oedd â’r gyfradd uchaf o ymosodiadau ar bobl ifanc, gan gofnodi 113 o achosion yn ystod 2017. Mae’r nifer hwn yn gyfwerth â thua tri digwyddiad ar gyfer pob carcharor.
  • YOI Feltham oedd â’r nifer uchaf o ymosodiadau ar unigolion nad oeddent yn bobl ifanc yn 2017. Roedd 131 o’r achosion hyn i gyd, a allai ymwneud â staff carchar ac ymwelwyr. 129 yw poblogaeth uned blant Feltham ar gyfartaledd.

Dywedodd Dr Robert Jones: “Mae’r data a gyflwynir yma yn dangos hyd a lled difrifol hunan-niweidio a thrais ymhlith plant yn y ddalfa.  Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn codi cwestiynau brys ynghylch lefelau diogelwch mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys HMYOI Parc, uned i blant yn Nghymru sy’n rhan o un o garchardai mwyaf y DU.

“Mae’r wybodaeth yr ydym wedi’i chasglu yn cynnig cipolwg unigryw ar ddiogelwch a thriniaeth plant yn y ddalfa. Gyda lwc, bydd yn cynorthwyo’r Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru wrth iddo barhau â’i ymchwiliad o system gyfiawnder Cymru.”

Meddai Andrew Neilson, Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd yng Nghynghrair Howard er Diwygio’r System Gosb:  “Mae’r ffigurau hyn yn dangos yn gwbl glir pam na ddylai plant fod mewn carchardai. Nid ydym yn rhoi’r plant yn gyntaf ar adeg hanfodol yn eu bywydau os ydym yn eu rhoi mewn carchardai lle maent yn dod i gysylltiad â lefelau mor uchel o drais. Yn hytrach na llehau’r tebygolrwydd o aildroseddu, mae hyn yn eu gwneud yn fwy tebygol o droseddu eto wedi iddynt gael eu rhyddhau.”

  • Nid yw’r gymhariaeth yn cynnwys Uned Keppel yn HMYOI Wetherby. Mae Uned Keppel yn Uned Dibyniaeth Uchel/Cefnogaeth Uwch, ac yn cynnig cefnogaeth fwy datblygedig i rai o’r bobl ifanc mwyaf heriol ac agored i niwed yn y ddalfa. Mae ffigurau ar gyfer Uned Keppel wedi’u cynnwys yn y tablau isod er gwybodaeth.

Poblogaeth a nifer yr achosion

 Cookham WoodFelthamParcWerringtonWetherbyUned Keppel
Poblogaeth (cyfartaledd)144129409818436
Nifer yr achosion o hunan-niweidio623564100146195
Nifer y bobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd10920711320915833
Nifer y rhai NAD YDYNT yn bobl ifanc sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd413140829415

Nifer yr achosion ‘fesul 100’ at ddibenion cymharu:

 Cookham WoodFelthamParcWerringtonWetherbyUned Keppel
Poblogaeth (cyfartaledd)144129409818436
Cyfradd hunan-niweidio fesul 10043.127.116010279.3542
Nifer y bobl ifanc o bob 100 sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd75.7160.5282.5213.385.992
Nifer y rhai NAD YDYNT yn bobl ifanc o bob 100 sydd wedi dioddef ymosodiad a brofwyd2.8101.610083.751.142

Rhannu’r stori hon