Michelle O’Neill i gyflwyno Darlith Flynyddol 2018
23 Hydref 2018
Leas Uachtarán (Dirprwy Arweinydd) Sinn Féin ac arweinydd y blaid yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon yw Michelle O’Neill a hi fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol 2018 Canolfan Llywodraethiant Cymru.
ACD Canol Ulster yw Michelle O’Neill ers 2007 ac mae wedi hefyd wedi bod yn Weinidog Gweithredol dros Amaethyddiaeth ac yn Weinidog dros Iechyd.
Cyflwynir ei darlith ar adeg argyfyngus yn ystod proses Brexit. Mae persbectif Sinn Féin ar Brexit a’r posibilrwydd o ffin galed ar ynys Iwerddon yn berthnasol dros ben i ddyfodol cyfansoddol ac economaidd Cymru, ac yn wir, i bawb ar yr ynysoedd hyn.
Dyma gyfle i glywed araith gan un o wleidyddion blaengar Iwerddon a dylech beidio â’i golli. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwesteion i Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Llun 10 Rhagfyr am 18:00. Mae modd cofrestru yma.
Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru:
“Mae Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru bellach yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr gwleidyddol Cymru. Dros y blynyddoedd, mae ein siaradwyr wedi cynnwys ffigyrau blaenllaw o’r meysydd gwleidyddol, cyfreithiol ac academaidd. Ymhlith y siaradwyr gwadd yn fwyaf diweddar mae cyn-Ddirprwy Brif Weinidog y DU, Nick Clegg; cyn-Ddirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon; yr Athro Sir Tom Devine; ac Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Rydym wrth ein boddau bod Michelle O’Neill wedi derbyn ein gwahoddiad i gyflwyno’r ddarlith eleni. Yn amlwg nid oes angen pwysleisio bod trefniadau cyfansoddol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn elfen graidd o’r anghydfod a’r ystyriaethau cyfredol ynglŷn â dyfodol cyfansoddol, gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol yr ynysoedd hyn i gyd. Mae Iwerddon a Chymru’n bartneriaid allweddol ac mae Cymru wedi bod yn borth i Iwerddon gyrraedd marchnadoedd Ewrop ers blynyddoedd maith. Efallai caiff y rôl hon ei newid yn sgîl ‘Brexit caled’. Felly, go brin bod cyfle mwy amserol i bobl Cymru wrando ar safbwynt arweinydd ail blaid fwyaf Gogledd Iwerddon sy’n un o brif ffigyrau gwleidyddol ynys Iwerddon i gyd.”