Adroddiad Carcharu Canolfan Llywodraethiant Cymru yn llywio polisi cyfiawnder Cymru.
16 Hydref 2018
Cynhaliwyd trafodaeth Cynulliad Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf (Mawrth 9 Hydref) am adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, “Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau”.
Dywedodd Aelodau Cynulliad ar draws y sbectrwm gwleidyddol eu bod yn croesawu’r adroddiad, ond roeddent hefyd yn bryderus ynghylch y canfyddiadau oedd ynddo am aflonyddwch mewn carchardai, achosion o hunan-niweidio ac ymosodiadau.
Yn flaenorol, dywedodd Alun Davies AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, y gallai’r ymchwil gan Dr Robert Jones “fod yn sail i bolisi cyfiawnder y dyfodol”.
Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd Aelodau’r Cynulliad i nodi canfyddiadau’r adroddiad, sydd nawr yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiad polisi cyfiawnder yng Nghymru.
Yn ystod y ddadl, dywedodd Alun Davies AC, sy’n gyfrifol am bolisi cyfiawnder Llywodraeth Cymru:
“…yn rhy aml o lawer, ar hyn o bryd, rydym yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth Cymru yn gallu darparu dull cydlynol i bolisi a dull gweithredu cyfannol a chydlynol i ddelio â phobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol.
“Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn rhoi cipolwg gyda’r ddealltwriaeth o hynny. Ein swyddogaeth ni, fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, yw mynegi ffordd ymlaen.”
Meddai Dr Robert Jones:
“Mae’n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn trafod canfyddiadau’r Ffeil Ffeithiau, ac rydw i’n croesawu’r ffaith fod Aelodau Cynulliad am ymgysylltu â’n hymchwil o ddifrif.
“Mae’r materion sy’n codi yn yr adroddiad yn hanfodol bwysig er mwyn i wasanaethau cyhoeddus allu gweithio’n effeithiol ac i gymdeithas yn ehangach. Rwy’n gobeithio y bydd llunwyr polisi yn parhau i ymgysylltu’n feirniadol gyda’r system gyfiawnder yng Nghymru yn ystod y cyfnod nesaf.”
Ers ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2018, mae’r adroddiad wedi llywio’r drafodaeth gyhoeddus a gwleidyddol am berfformiad carchardai yng Nghymru, ac wedi’i drafod gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn ogystal â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn parhau i ymchwilio i sut mae’r system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru drwy ei phrosiect ymchwil Cyfiawnder ac Awdurdodaeth a ariennir gan ESRC.