Trawsnewid gwerthuso effaith digwyddiadau
28 Chwefror 2019
Amrywio dulliau o fesur a gwerthuso effaith digwyddiadau oedd ffocws gweithdy Effaith ac Ymgysylltu undydd diweddar a drefnwyd gan Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd (Mercher 6 Chwefror 2019).
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Dr Andrea Collins a'r Athro Max Munday (Uned Ymchwil Economi Cymru Ysgol Busnes Caerdydd), ac roedd yn edrych ar ffyrdd i wella a chyfoethogi gwerthusiadau effaith digwyddiadau.
Er bod y ffocws ar ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, roedd y trafodaethau a'r ymchwil a gyflwynwyd yn berthnasol i bob digwyddiad a lwyfennir.
I fesur llwyddiant digwyddiad
Er bod effaith economaidd yn aml yn cael ei ddefnyddio i fesur llwyddiant digwyddiad, cydnabu nifer o siaradwyr allweddol symudiad at fwy o integreiddio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i becyn mesur eventIMPACTS UK Sport.
Clywodd y rheini oedd yn bresennol, oedd yn cynnwys trefnwyr digwyddiadau ledled Cymru, gan gydweithwyr academaidd, o’r llywodraeth ac ymarferwyr am heriau ac ystyriaethau arferion gwerthuso effaith digwyddiadau cyfredol, a methodolegau blaengar ar gyfer gwella.
Y cyntaf i gyflwyno oedd Gwilym Evans, Pennaeth Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru.
Cywir a chynhwysfawr
I Gwilym, roedd fframwaith gwerthuso cadarn yn hanfodol er mwyn rhoi dadansoddiad cywir a chynhwysfawr i Weinidogion o effaith digwyddiadau oedd yn defnyddio llawer o adnoddau. Roedd hefyd yn allweddol i fynd i'r afael â gwerth chwyddedig digwyddiadau a llywio strategaeth digwyddiadau'r dyfodol.
Pwysleisiodd fod llwyddiant yn fwy nag enillion ariannol a bod angen i ddigwyddiadau ddangos eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Llywodraeth, yn cynrychioli lledaeniad daearyddol ar draws Cymru, ac yn bwysig, eu bod yn gynaliadwy.
Gan ymgymryd â thema dadansoddi cryfach ac amlddimensiwn ar gyfer digwyddiadau, dadl Lucy Crickmore, Uwch Ymgynghorydd yn UK Sport oedd bod ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys llesiant/budd ffisegol a meddyliol cymunedol, yn ennill tir.
Eglurodd Lucy EventIMPACTS, pecyn cymorth ar-lein am ddim sy'n helpu trefnwyr i asesu a gwerthuso eu digwyddiadau gyda phum maen prawf: economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, presenoldeb a chyfryngau.
Yn stori dda
Ymunodd cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Dr Annette Roberts a Dr Nicole Koenig-Lewis, â Dr Collins i gyflwyno eu hymchwil diweddar i effaith a gwerth digwyddiadau.
Holodd Dr Roberts pam ein bod yn mesur effaith economaidd gan esbonio ei fod yn deillio'n aml o awydd i ganfod manteision digwyddiadau, yn ogystal â chyfiawnhau bod gwerthuso digwyddiadau'n economaidd yn aml yn cael ei weld yn stori dda, ac yn creu swyddi a ffrydiau incwm na fyddai o reidrwydd yn bodoli fel arall.
Cyflwynodd Dr Roberts astudiaeth achos ar effaith economaidd dyrchafu clwb pêl-droed Dinas Abertawe i'r Uwch Gynghrair a'i galluogodd i ddarlunio rhai o'r heriau a wynebwyd wrth ddadansoddi ac amcangyfrif gwerth economaidd a pha mor bwysig yw hi i ymchwilwyr graffu'r elfennau newidiol i osgoi gogwyddo'r canlyniadau terfynol.
Cadarnhaodd Dr Collins farn y siaradwyr blaenorol bod gwerthuso digwyddiadau'n ehangu y tu hwnt i'r elfen economaidd a dadleuodd mai'r cwestiwn allweddol yw sut ydym ni'n deall, cyfrif a chymharu'r effeithiau amgylcheddol yn well.
Gan ddefnyddio tair astudiaeth achos o ddigwyddiadau mawr (rownd derfynol Cwpan yr FA, gem rygbi Chwe Gwlad, a Grande Depart y Tour de France), dangosodd Dr Collins yr effaith amgylcheddol fesul digwyddiad a fesul ymwelydd. I wneud hyn, cyfrifodd ôl troed ecolegol y digwyddiadau a'u cymharu â'u heffeithiau economaidd. Roedd cydberthynas gref rhwng gwariant ymwelwyr yn y digwyddiadau hyn a'u heffaith amgylcheddol.
Anogodd Dr Collins wneuthurwyr polisi, hyrwyddwyr a threfnwyr i ystyried 'costau' amgylcheddol a datblygu strategaethau effeithiol i leihau'r effeithiau negyddol gan ddangos sut roedd yr Eisteddfod Genedlaethol a Hanner Marathon Caerdydd wedi lleihau eu heffeithiau teithio yn 2018.
Teyrngarwch ymwelwyr
Aeth Dr Koenig-Lewis ar drywydd ychydig yn wahanol yn ei chyflwyniad gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau diwylliannol yng Nghymru, gyda dadansoddiad o wraidd profiad a boddhad ymwelwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 a 2018.
Roedd ei hastudiaeth yn ceisio deall effaith y digwyddiad o ran teyrngarwch ymwelwyr a gwaddol a rôl y canfyddiad o ddilysrwydd yn ansawdd eu profiadau neu eu hawydd i ddychwelyd.
Trafododd Dr Richard Coleman a Dr Girish Ramchandani o Brifysgol Sheffield Hallam hefyd faterion ynghylch presenoldeb ac ysbrydoliaeth digwyddiadau, yn benodol gwaddol cyfranogi.
Mewn nifer o astudiaethau, edrychon nhw ar newid agwedd yn seiliedig ar ddigwyddiadau chwaraeon sy’n ysbrydoli (fel digwyddiadau prawf Olympaidd) gan holi pwy sy'n cael eu hysbrydoli, sut mae hynny'n ymddangos yn y gweithgaredd a hirhoedledd neu gynaladwyedd y gweithgaredd hwnnw.
Dangosodd yr ymchwil fod digwyddiadau chwaraeon mawr yn gallu ysbrydoli pobl i fod yn fwy gweithredol ond bod yr ysbrydoliaeth yn amrywio yn ôl demograffeg (e.e. oed) a fesul digwyddiad. Er bod presenoldeb mewn digwyddiadau chwaraeon mawr yn gallu arwain at gynnydd mewn cyfranogiad, mae newid ymddygiadol cadarnhaol yn dal i fod ar ei gryfaf ymhlith cyfranogwyr cyfredol.