Gallai canfyddiadau newydd wella'r rhagolygon ar gyfer pobl o dras Affricanaidd sydd â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth
26 Chwefror 2019
Mae astudiaeth dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn golygu y gallai mwy o bobl o dras Affricanaidd sydd â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth gymryd y cyffur sydd fwyaf tebygol, yn ôl y dystiolaeth, o reoli eu symptomau.
Nododd y tîm reswm genetig a diniwed mewn pobl o dras Affricanaidd am lefelau is o niwtroffil: cyflwr all hefyd fod yn sgil-effaith prin, â'r potensial i fygwth bywyd, yr unig feddyginiaeth ar drwydded ar gyfer sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth.
Yn ôl yr Athro James Walters, un o'r prif ymchwilwyr yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg Prifysgol Caerdydd: "Ar hyn o bryd, Clozapine yw'r therapi mwyaf effeithiol ar gyfer pobl â sgitsoffrenia sy'n gwrthsefyll triniaeth. Fodd bynnag, gall beri sgil-effaith prin o'r enw newtroffenia, sef gostyngiad mewn niwtroffiliau, math o gell gwaed gwyn a ddefnyddir i frwydro yn erbyn heintiau."
Credir bod niwtropenia'n effeithio ar tua 3 ym mhob 100 o bobl sy'n cael Clozapine ar bresgripsiwn. Mewn achosion prin, gall ddatblygu i fod yn agranwlosytosis, cyflwr difrifol â'r potensial i fygwth bywyd . O ganlyniad, mae pobl sy'n cael eu trin â clozapine yn cael prawf gwaed yn rheolaidd, ac os yw niwtropenia'n cael ei ganfod, daw triniaeth i ben ar unwaith.
Cynhaliodd y tîm astudiaeth cysylltiad genom-gyfan a defnyddio samplau gan 552 o bobl o dras Affricanaidd sy'n cymryd clozapine.
Eglurodd Dr Sophie Legge, prif awdur ar y cyd yr astudiaeth: "Gwelsom amrywiad genetig yn y genyn ACKR1 oedd wedi'i gysylltu'n gryf â chyfrif is o niwtroffil, ac roedd y rheini oedd yn rhan o'n sampl â'r amrywiad hwnnw 20 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu niwtropenia yn ystod triniaeth clozapine na defnyddwyr clozapine heb yr amrywiad genetig hwn."
Mae'r un amrywiad genetig yn gyfrifol am y grŵp gwaed 'Duffy-null', sy'n gyffredin iawn mewn mannau o'r byd lle bu malaria'n rhemp, gan gynnwys sawl rhan o Affrica, Asia ac America Ladin.
Mae gan bobl â'r grŵp gwaed Duffy-null lai o risg o gael eu heintio â malaria, ond mae eu lefelau niwtroffil yn is hefyd, ar gyfartaledd, na gweddill y boblogaeth. Credir ei fod yn ffynhonnell o niwtropenia ethnig diniwed, cyflwr etifeddol sy'n effeithio ar o leiaf 25-50% o bobl o dras Affricanaidd neu'r Dwyrain Canol.
Yn wyneb y canfyddiadau hyn, mae'r tîm yn awgrymu prawf genetig fel strategaeth syml a sensitif ar gyfer rhoi diagnosis o niwtropenia ethnig diniwed cyn rhoi clozapine ar bresgripsiwn.
Yn ôl Dr Antonio Pardiñas, un o gyd-arweinwyr y prosiect, "Gallai unigolion â'r cyflwr sydd ddim yn dangos unrhyw arwyddion o swyddogaeth imiwnedd sydd o dan fygythiad gael terfynau niwtroffil wedi'u hadolygu, yn unol â'r gweithdrefnau presennol ar gyfer monitro niwtropenia ethnig diniwed. Byddai hyn yn caniatáu i ragor o bobl fyddai'n elwa o clozapine i ddechrau cymryd y feddyginiaeth, gan osgoi'r angen i lawer mwy i roi'r gorau i driniaeth.
"Yn hanfodol, mae hyn yn dibynnu ar ganlyniadau'r astudiaethau diogelwch ychwanegol, ond mae gan y prawf fferylliaeth-geneteg hwn y potensial i helpu â rheoli'r driniaeth clozapine."
Mae'r papur ‘A genome-wide association study in individuals of African ancestry reveals the importance of the Duffy-null genotype in the assessment of clozapine-related neutropenia’ wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Molecular Psychiatry.
The paper ‘A genome-wide association study in individuals of African ancestry reveals the importance of the Duffy-null genotype in the assessment of clozapine-related neutropenia’ is published in the journal Molecular Psychiatry.